Symud i'r prif gynnwys

26.07.2019

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru am brynu casgliad o gartwnau gwreiddiol ac eiconig gan y darlunydd Mal Humphreys, sef casgliad gweledol adnabyddus sy’n darlunio bron i bob digwyddiad gwleidyddol o bwys yng Nghymru ers dechrau’r 1990au.

Caiff Mal Humphreys (Mumph) ei adnabod fel un o ddarlunwyr cartwnau mwyaf dawnus Cymru. Ers 1991 mae wedi cyfrannu cartwnau yn rheolaidd i’r Independent a’r Western Mail yn ogystal â’r Welsh Mirror, Daily Post, Golwg, Y Fanner, Y Cymro a Lol. Bu hefyd yn cyfrannu at raglenni teledu BBC1, BBC Wales,  ITV a S4C. Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn prynu ei archif gyflawn, sy’n cynnwys dros 3200 o gartwnau, ynghyd â’u hawlfraint.

Dyma gasgliad helaeth a luniwyd yn ystod cyfnod allweddol yn hanes Cymru, sef ar droad cyfnod datganoli. Mae Mumph wedi darlunio cartwnau yn seiliedig ar ddigwyddiadau allweddol Prydeinig a byd eang hefyd. Bydd fersiynau gwreiddiol o’i gyfres Cwm Offit, a greodd Mumph ar gyfer y South Wales Echo, yn dod i’r Llyfrgell fel rhan o’i archif.

Mae’r Llyfrgell am ddefnyddio Y Gronfa Gasgliadau newydd i brynu casgliad Mumph yn ei gyfanrwydd. Crëwyd y Gronfa Gasgliadau er mwyn galluogi’r Llyfrgell i archebu eitemau pan maent yn dod ar y farchnad. Datblygir casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy bryniadau aml a phwysig, sy’n sicrhau bod y sefydliad yn berthnasol i fywyd y genedl ac yn parhau i gasglu gwybodaeth ac eitemau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Nod y Llyfrgell yw codi £25,000 er mwyn gwarchod casgliad Mumph ar gyfer y dibenion hynny.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r Llyfrgell yn llawn tysorau. Mae rhai ar ffurff llawysgrifau hynafol, llyfrau prin, mapiau unigryw, gwaith celf gwefreiddiol, ffilm a sain gogoneddus a ffotograffau sy’n gofnodion oesol o’r Gymru a fu. A dyma ni nawr yn croesawu trysorau gwahanol iawn i’r arferol, a thrysorau cwbl unigryw y mae’n rhaid i ni eu diogelu i’r rhai a ddaw ar ein holau. Ochr yn ochr a thrysorau cydnabydddig y Llyfrgell fe fydd cartwnau Mumph yn ychwanegu at ein cyfoeth.”

Ychwanegodd Lona Mason, Pennaeth Graffeg, Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref naturiol i gasgliad Cartwnau Mumph, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gwarchod a’u rhannu er mwyn i bobl gael eu harchwilio a'u mwynhau.”

Meddai Mal Humphreys:
“Anrhydedd o’r mwyaf yw cael fy nghydnabod gan fy ngwlad fy hun drwy Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd gwaith fy oes yn cael ei gadw tra bydd dyn ar y ddaear.”

Nodiadau

Mwy o wybodaeth am Gronfa Cartwnau Mumph Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gwybodaeth Bellach

Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk    neu
01970 632 534