Symud i'r prif gynnwys

14.11.2019

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn arwain ar brosiect peilot addysgol newydd, gyda'r nod o wella mynediad disgyblion ysgol at wybodaeth Gymraeg ar Wicipedia am hanes Cymru.

Ariennir y prosiect peilot 12 mis gan Lywodraeth Cymru, lle fydd Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell yn cydweithio â Menter Iaith Môn, CBAC ac arbenigwyr yn y maes. Byddant yn mynd ati i ddethol 100 o ddigwyddiadau a themâu allweddol sy’n cael eu hastudio ar hyn o bryd ym maes Hanes yn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru, ac yn datblygu technegau er mwyn strwythuro gwybodaeth berthnasol ynghylch y pynciau i'w cyhoeddi ar y Wicipedia Cymraeg.

Wrth weithio gydag arbenigwyr yn y maes, bydd tîm y prosiect yn defnyddio cynnwys Wicipedia ac adnoddau dysgu presennol i ddatblygu erthyglau o safon, ynghyd â deunydd aml-gyfrwng sy'n addas ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd. Bydd cyfres o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion uwchradd i ennyn diddordeb disgyblion Cyfnod Allweddol 5 i ysgrifennu cynnwys Wicipedia ar gyfer disgyblion iau.

Defnyddir Wicipedia yn helaeth gan ddisgyblion ar gyfer ymchwil, ond mae ansawdd ac ystod cynnwys Cymraeg y platfform yn aml yn gwthio myfyrwyr cyfrwng Cymraeg at gynnwys Saesneg. Mae'r prosiect hwn yn fodd o ddatblygu strategaeth â ffocws newydd, er mwyn cyfoethogi cynnwys perthnasol ar y Wicipedia Cymraeg.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn cefnogi fersiwn Cymraeg Wicipedia, sydd â dros 100,000 o erthyglau, ers cyflogi Wicimediwr Preswyl yn 2015. Gan gydweithio â Llywodraeth Cymru, mae'r Llyfrgell wedi gweithredu nifer o brosiectau Wicipedia; cyflwyno digwyddiadau golygu a hyfforddi  ar gyfer gwahanol grwpiau a sefydliadau, a rhannu nifer o gasgliadau digidol yn agored ar gyfer eu cynnwys mewn erthyglau Wicipedia.

Dywedodd Jason Evans, Rheolwr Prosiect a Wicimediwr Cenedlaethol:
“Rydym yn falch iawn o dderbyn y grant hwn gan Lywodraeth Cymru. Ein pobl ifanc yw dyfodol y Gymraeg, ond er mwyn sicrhau parhad i’r iaith, mae angen i ni wneud yn siŵr bod modd iddynt fyw, chwarae ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y prosiect hwn yn caniatáu inni ddefnyddio Wicipedia, y gwefan cyfrwng Cymraeg sy’n denu’r mwyaf o ymwelwyr, i ddechrau mynd i'r afael â'r anghydbwysedd yn argaeledd gwybodaeth addysgol sy'n bodoli rhwng Saesneg a Chymraeg."

Ychwanegodd Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg:
"Mae Wicipedia yn aml ar frig y canlyniadau chwilio wrth wneud ymchwil ar gyfer gwaith ysgol, felly bydd y gwaith hwn yn bwysig wrth gynyddu argaeledd erthyglau cyfrwng Cymru, ochr yn ochr â'n prif blatfform i ysgolion, sef Hwb. Rwy'n falch o gefnogi'r prosiect hwn, yn enwedig yng nghyd-destun ein Maes Llafur newydd ar gyfer Cymru yn 2022.”

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae'r Llyfrgell eisoes wedi rhannu nifer o'n casgliadau i'w defnyddio ar Wicipedia, fel bod modd i bawb gael mynediad i’n trysorau, a’u dehongli, cyflwyno a mwynhau. Mae'n hanfodol bwysig bod gwybodaeth am hanes a threftadaeth Cymru ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar blatfform pwerus a phoblogaidd fel Wicipedia. Rydym yn falch felly i fedru arwain y prosiect cyffrous yma, fel y gall disgyblion Cymru ymchwilio a dysgu am agweddau allweddol o’u hanes yn hawdd, a thrwy gyfrwng eu hiaith ddewisol.”

Meddai Nia Wyn Thomas, Prif Swyddog Iaith ym Menter Iaith Môn:
"Dyma gyfle arall i ni ym Menter Iaith Môn gael defnyddio brwdfrydedd plant a phobl ifanc yr Ynys ac arbenigedd y Llyfrgell Genedlaethol i groesawu datblygiad newydd i faes y Gymraeg yn ddigidol. Mae'n gyfle i atgyfnerthu rôl Wici mewn gwaith ymchwil, yn ogystal ag atgyfnerthu cynnwys perthnasol sy'n arf i fyfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn ei dro yn sicrhau cyfleoedd cyfartal i holl bobl ifanc sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a gwych yw gweld criw Môn yn arwain y gad!"

-----DIWEDD-----

Nodiadau i Olygyddion
Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth, cyfweliadau a lluniau cysylltwch â: post@llgc.org.uk neu ffoniwch 01970 632534.