Symud i'r prif gynnwys

26.11.19

Eleni mae’r Loteri Genedlaethol yn 25 mlwydd oed. I ddathlu hyn bydd ymgyrch #DiolchiChi rhwng 23 Tachwedd a 1 Rhagfyr a bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cymryd rhan yn y dathliadau i nodi’r gwahaniaeth mae arian y Loteri Genedlaethol wedi gwneud i waith y Llyfrgell.

Yn ystod yr wythnos, byddwn yn rhannu gwybodaeth ar ein cyfryngau cymdeithasol am y prosiectau sydd wedi eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol a’r gwahaniaeth mae’r prosiectau hyn wedi gwneud i waith y Llyfrgell a llesiant.  Yn ogystal, ar Ddydd Iau 28 Tachwedd mae cyfle i’r rheiny sydd wedi prynu tocyn Loteri Genedlaethol ymweld â’r Llyfrgell ar gyfer taith dywys o amgylch yr adeilad a chlywed mwy am y prosiectau hyn. Bydd paned a chacen yn eu disgwyl ar y diwedd.  

Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi galluogi’r Llyfrgell i ymgymryd â nifer o brosiectau uchelgeisiol.  Mis yma mae’r Llyfrgell wedi cychwyn yn swyddogol ar brosiect cyffrous ac arloesol i sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru, prosiect sydd yn bosib trwy grant sylweddol wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Fel rhan o’r ymgyrch #DiolchiChi felly, bydd y Llyfrgell yn lansio prosiect yr Archif Ddarlledu Genedlaethol trwy ryddhau 5 clip hanesyddol o archif BBC Cymru bob dydd rhwng 25-29 Tachwedd.

Rhain fydd y clipiau cyntaf i gael eu cyhoeddi ar-lein gan y prosiect, ac erbyn diwedd cyfnod y prosiect pum mlynedd, bydd 1500 o glipiau archif BBC Cymru ar gael i bawb eu gweld a’u mwynhau ar-lein. Dilynwch @DarlleduLLGC neu dudalen Facebook Llyfrgell Genedlaethol Cymru i fod y cyntaf i weld y clipiau.

Mae derbyn nawdd i gyflawni prosiectau fel hyn yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac maent hefyd wedi ariannu rhaglenni gwerthfawr eraill gan y Llyfrgell.

Yn sgil derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol, roedd y Llyfrgell hefyd yn gallu sefydlu cynllun gwirfoddoli ym Mehefin 2012. Mae'r sylfaen ariannol hyn wedi galluogi'r Llyfrgell i agor ei drysau i dros 300 o wirfoddolwyr, o bob oed, cefndir a gallu, dros y blynyddoedd diweddar. Mae gwirfoddolwyr wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith y Llyfrgell ac maen nhw hefyd wedi cael cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd.

Erbyn i brosiect Cynefin ddod i ben yn 2017, roedd 1,200 map degwm o 1838-1850 wedi’u trwsio a’u digido ac roedd y Llyfrgell wedi cydweithio gyda 1,300 o wirfoddolwyr ar-lein i drawsgrifio a geogyfeirio’r mapiau er mwyn creu map digidol o Gymru gyfan o’r cyfnod, gyda’r holl wybodaeth atodol fel enwau caeau, enwau ffermydd a thirfeddianwyr yn chwiliadwy ar-lein. Mae’r rhain ar gael i’w chwilio erbyn hyn ar lleoedd.llyfrgell.cymru.

Yna, ym Mai 2017 bu i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ariannu prosiect cyntaf gwefan cyfrannu torfol y Llyfrgell, sef trawsgrifio Cofnodion Tribiwnlysoedd Apêl y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi.  Diolch i dros 200 o wirfoddolwyr ar-lein ar wefan torf.llyfrgell.cymru cafodd y casgliad ei drawsgrifio o fewn 6 mis sy’n golygu bod modd chwilio'r cofnodion hyn bellach yn ôl enw, cyfeiriad, dyddiad ac ati trwy oriel ddigidol ar www.llyfrgell.cymru

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Heb os, heb gyfraniad hael y cyhoedd wrth iddyn nhw brynu tocynnau’r Loteri Genedlaethol ni fyddai’r holl waith yma yn bosib, mae’r Llyfrgell yn ddiolchgar iawn i bob un ohonyn nhw ac falch iawn i gymryd rhan yn yr ymgyrch hon.” 


Ychwanegodd Richard Bellamy, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Does dim rhaid i chi deithio ymhell yng Nghymru i weld rhai o'r prosiectau gwych y mae'r Loteri Genedlaethol wedi helpu i'w hariannu. O barciau hanesyddol, natur a thirweddau trawiadol i gestyll, amgueddfeydd a threftadaeth ddiwydiannol, dyma'r llefydd sydd gennym yn agos at ein calonnau a heb chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl. Gyda dros £1.75 biliwn wedi’i fuddsoddi yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, mae’r ymgyrch hon yn ffordd berffaith inni ddweud ‘diolchi chi’.”

Dilynwch ni ar Facebook: llgcymrunlwales a Twitter: @LLGCymru yn ystod yr wythnos i ddysgu am sut mae’r arian yma wedi gwneud gwahaniaeth i’r Llyfrgell
DIWEDD

Gwybodaeth Bellach

Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk     neu
01970 632 534