Symud i'r prif gynnwys

Ers ei sefydlu mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi casglu a chadw cofnod o ddigwyddiadau yn ein hanes fel Cymry fel bod y wybodaeth honno ar gael i genedlaethau’r dyfodol.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn casglu amrywiaeth o eitemau, o bapurau newydd i gyhoeddiadau swyddogol i archifo cynnwys gwefannau, fel cofnod o argyfwng Covid-19 a’i effaith ar Gymru a’i phobl.

Rydym yn awyddus i glywed eich llais personol chi hefyd, er mwyn cofnodi effaith y sefyllfa bresennol ar ein bywydau bob dydd, gan adlewyrchu’r tebygrwydd ac amrywiaeth yn ein profiadau a sicrhau bod ein cofnod mor amrywiol â phosibl.

Rhannwch eich profiad gyda ni trwy ba bynnag gyfrwng sydd orau gennych chi – llythyr, dyddiadur, fideo, recordiad llais, lluniau – yr hyn sy’n bwysig yw ein bod ni’n cofnodi eich profiad unigryw chi, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ddeall y cyfnod a’i effaith yn well.

Byddwn yn casglu’r rhain er mwyn creu cofnod parhaol i’r dyfodol ac mi fyddan nhw’n dod yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell. Byddwn hefyd yn cyhoeddi detholiad o gyfraniadau ar ein cyfrifon cymdeithasol er mwyn rhannu’r profiadau yma sydd yn ein clymu pob un ohonom ynghyd.

I’ch cynorthwyo, dyma ychydig gwestiynau i chi feddwl amdanynt wrth lunio’ch cyfraniad: 

  • Sut mae eich diwrnod ar hyn o bryd yn cymharu â’ch diwrnod arferol cynt?
  • Beth fyddech chi’n ei wneud fel arfer ar ddiwrnod arferol yn ystod yr wythnos?
  • Sut mae’n cymharu erbyn hyn?
  • Beth sydd fwyaf heriol?
  • Beth sydd wedi bod yn annisgwyl?
  • Pa fath o bethau sy’n achosi pryder i chi?
  • Beth ydych chi wedi’i wneud er mwyn delio gyda’r sefyllfa?
  • Beth ydi’r pethau positif i ddod o’r profiad yma?

Wedi i chi greu eich cofnod danfonwch hwn atom ni trwy e-bostio: stori@llgc.org.uk neu drwy’r post i Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU, gydag ychydig o fanylion cryno amdanoch eich hun trwy gwblhau'r ffurflen profiad Covid-19 yma.