Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
04.10.2019
Yn ystod wythnos 7 – 12 Hydref 2019 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno â sefydliadau eraill ar draws y Deyrnas Unedig i ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd 2019. Thema’r wythnos eleni yw ‘Llyfrgelloedd yn y Byd Digidol’.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal yn y Llyfrgell fel rhan o’r dathliadau, gan gynnwys taith tywys ryfeddol. Rhoddir y cyfle i ymwelwyr fusnesi y tu ôl i lenni’r Llyfrgell ar ffurf penwisgoedd rhith realiti, a chrwydro’r staciau, celloedd cudd, uned gadwraeth, adran ddigido a llawer mwy!
Mae’r Llyfrgell bellach yn plethu defnydd o’r Ap Smartify i’w harddangosfeydd, sy’n galluogi defnyddwyr i ymgysylltu a’i chasgliadau mewn modd newydd a chyffrous. Ap byd-eang yw Smartify sy’n cyflwyno gwybodaeth gynhwysfawr am eitemau a chasgliadau wrth iddynt gael eu sganio â theclynnau clyfar, fel ffonau symudol. Ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd 2019, mae’r Llyfrgell wedi ehangu ei defnydd o’r Ap ac anogir ymwelwyr i bigo draw i’r adeilad er mwyn profi’r dechnoleg drostynt eu hunain.
Mae Wythnos Llyfrgelloedd 2019 hefyd yn gyfle i ddathlu gwaith ymgysylltu digidol y Llyfrgell. Ymhlith y gweithgarwch ymgysylltu y bydd Cyfieithathon yng nghwmni’r Wicimediwr Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r Llyfrgell, mewn partneriaeth â Menter Iaith Môn, yn gweithio ar brosiect ‘WiciLlên’ a’i nod yw gwella safon cynnwys a data ar Wicipedia am Lenyddiaeth Cymru. Fel rhan o’r prosiect, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, cynhelir cyfres o weithdai ar draws y wlad sy’n ffocysu ar Lenyddiaeth Gymraeg a Chymreig.
Cofiwch gadw golwg ar gyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell yn ystod yr wythnos. Yma, cewch flas o’i hadnoddau, gwasanaethau a chasgliadau digidol ynghyd ag ambell i ffaith ddiddorol a chwis! Bydd cyfle i bobl dweud eu dweud am rôl Llyfrgelloedd yn yr oes sydd ohoni ar y sianelau hefyd.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Edrychwn ymlaen at nodi Wythnos Llyfrgelloedd 2019 sydd eleni’n dathlu rôl hanfodol llyfrgelloedd yn yr oes ddigidol. Yn y Llyfrgell Genedlaethol, rydym yn croesawu pob cyfle i gofleidio technolegau newydd er mwyn galluogi ymgysylltiad dyfnach a’n casgliadau a sicrhau mynediad arlein nid yn unig i fwy o bobl ar draws Cymru ond yn fyd-eang . Mae ehangu mynediad at wybodaeth a chefnogi unigolion a chymunedau yn eu dehongliad a’u hymgysylltiad â'n casgliad ymhlith ein prif flaenoriaethau.”
Meddai Dafydd Tudur, Pennaeth Mynediad Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae Wythnos Llyfrgelloedd 2019 yn gyfle arbennig i ni sôn am yr amrywiaeth o ffyrdd rydym yn defnyddio technoleg ddigidol i alluogi pobl i chwilio a darganfod gwybodaeth, a chyfoethogi eu defnydd a’u profiad o’n casgliadau. Gyda chyfryngau digidol bellach yn rhan o fywyd pob dydd i’r rhan fwyaf o bobl, mae casgliadau a gwasanaethau’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn dod yn rhan o fywyd dyddiol pobl ledled Cymru a thu hwnt.”
DIWEDD
Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk neu
01970 632 534