Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
I fwynhau'r profiad o ddefnyddio'r Ystafell Ddarllen, mae'n rhaid cael Tocyn Darllen dilys yn gyntaf.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell gyfeiriol, a gellir ymchwilio'r deunydd yn Ystafell Ddarllen y Gogledd, neu arlein, os yw ar gael felly.
Rydym yn annog darllenwyr i archebu deunydd ymlaen llaw cyn eu hymweliad; mae hyn yn hanfodol os yn ymweld ar ddydd Sadwrn, gan mai dim ond deunydd sydd wedi ei archebu ymlaen llaw yn ystod yr wythnos, neu sydd wedi ei roi ar gadw yn ystod yr wythnos, fydd yn cael ei roi allan ar y Sadwrn. Ceir mwy o wybodaeth ar ein tudalen Amseroedd Cyrchu.
Am fanylion llawn am y gwahanol lefelau o fynediad gweler y dudalen Beth gallaf ei weld?
Mae Wi-fi ar gael am ddim yn yr Ystafell Ddarllen.
Yn Ystafell Ddarllen y Gogledd gall darllenwyr ymchwilio i lyfrau printiedig, cylchgronau a chael mynediad i’n adnoddau electronig, gan gynnwys ein e-adnoddau electronig allanol.
Yma hefyd gall darllenwyr ymchwilio i ddeunydd sain a delweddau symudol gan gynnwys ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiadau sain a cherddoriaeth.
Os hoffech wylio neu wrando ar ddeunydd o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, gofynnwn i chi roi 24-72 awr o rybudd cyn eich ymweliad. Mae angen rhybudd gan fod llawer o ddeunydd yr Archif yn cael ei gadw o dan amodau arbennig, felly mae angen i'r Archif gael digon o rybudd i baratoi'r deunydd ar eich cyfer.
Mae gan y Llyfrgell gyfarpar yn yr ystafelloedd darllen i helpu gyda mynediad at ein hadnoddau, ac maent yn cynnwys:
I weld sut yr ydym yn delio â'ch data personol gweler y Datganiad Preifatrwydd.