Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Gallwn gyflenwi mapiau hanesyddol ar gyfer archwiliad safle masnachol ac awdit amgylcheddol.
Yn ôl Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 rhaid ymgymryd ag arolygon trylwyr o safleoedd cyn eu datblygu. Y man cychwyn arferol yw 'astudiaeth pen desg' gan ddefnyddio mapiau graddfa fechan a graddfa fawr yr Arolwg Ordnans. Fel arfer dengys y mapiau hyn adeiladau, defnydd diwydiannol, defnydd tir, a ffiniau caeau. Cofnod o dirlun mewn oes flaenorol a geir ynddynt. Ceir cofnod o dirlun cynharach fyth mewn mapiau degwm, mapiau ffermydd ac ystadau ac mewn hen gynlluniau trefol.
Gwasanaeth penodol ar gyfer defnyddwyr mewn busnes a masnach yw Mapiau ar gyfer Busnes, sy'n darparu gwasanaeth chwilio, adfer gwybodaeth a ffotogopïo mapiau hanesyddol o unrhyw ardal o ddiddordeb o fewn Cymru.
Y Llyfrgell Genedlaethol sy'n dal y casgliad mwyaf o fapiau'r Arolwg Ordnans yng Nghymru, gan gynnwys:
Mae ein casgliad o fapiau degwm (ca. 1837-1850) o Gymru yn un cyflawn ac fe'i hategir gan gynlluniau fferm ac ystad cynharach. Ceir hefyd rhai cynlluniau mwynfeydd a chwareli.
Mae'r ystafell ar gyfer darllen mapiau yn agored i bawb sy'n meddu tocyn darllen dilys. Nid oes angen gwneud trefniant ymlaen llaw. Am resymau cadwriaethol dim ond copïau o ddalennau cyfain (fel arfer maint A0) a gaiff eu darparu a hynny yn ôl y prisiau arferol, ond codir 20% ychwanegol ar bob copi a ddarperir ar gyfer defnydd masnachol.
Gallwn wneud rhywfaint o ymchwil gychwynnol ar ran cleientau nad ydynt yn medru ymweld â'r Llyfrgell drostynt eu hunain, ond cyfyngir y chwilio i'r casgliad o fapiau Arolwg Ordnans 1:2,500. Gellir hefyd chwilio ein Catalog ar wefan y Llyfrgell.
Os ydych yn medru gofyn am ddalennau penodol yna bydd y gost yn unol â'n prisiau arferol, ynghyd â phostio a phacio, TAW, a’r ffï fasnachol o 20%. Hefyd, os ydych yn medru darparu map modern o'r safle, yna darparwn y mapio hanesyddol perthnasol yn unol â'n prisiau arferol. Unwaith eto, bydd yn rhaid ichi dalu am bostio a phacio, TAW a’r ffî fasnachol.
Os oes angen chwiliad safle manwl (gan gynnwys mapiau degwm a mapiau ystad), ac os na all y cwsmer ymweld â’r Llyfrgell, mae’n bosib y byddwn yn argymell cyflogi ymchwilydd annibynnol.
Ymdrinnir â cheisiadau am gopïau o fapiau at ddefnydd busnes yn nhrefn eu derbyn. Anelwn at ateb 90% o bob ymholiad a dderbynnir o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gallwch wneud cais am chwiliad mapiau trwy ffacs, ebost neu lythyr, gyda manylion llawn o’r hyn sydd ei angen. Rhaid i bob cais gynnwys manylion llawn y person sydd yn gwneud y cais, ynghyd â manylion y person sydd i dderbyn y copïau a'r anfoneb. Dylid nodi hefyd fod y cais at ddefnydd masnachol.
Mae unrhyw fapiau a gyhoeddwyd gan yr Arolwg Ordnans llai na 50 blynedd yn ôl yn dal i fod o dan hawlfraint y goron. Ni all y Gwasanaeth Ymholiadau ddarparu copïau o fapiau o'r fath heb i fusnes neu gwmni ddarparu copi o drwydded yr Arolwg Ordnans, ‘Superseded Library Licence’, sydd ar gael o’r Arolwg Ordnans.
Rhaid anfon copi o'r drwydded hon gyda phob cais am gopïau. Rhaid cael y drwydded hon yn ogystal ag unrhyw drwydded arall sydd gennych oddi wrth yr Arolwg Ordnans. Nodwch mai trwydded wahanol i’r drwydded ‘OS Paper Map Copying licence’ yw’r ‘Superseded Library Licence’, a chyfrifoldeb yr un sy'n gwneud y cais yw sicrhau ei fod / ei bod yn cydymffurfio â phob rheol drwyddedu.
Am fanylion pellach cysylltwch â’r Arolwg Ordnans.
Y gost ar gyfer ffotogopïau maint A0 yw £5.50 y ddalen, gyda phostio a phacio yn ddibynnol ar nifer y copïau a anfonir. Ychwanegir pacio TAW at bob archeb.
Nid oes rheidrwydd o unrhyw fath ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru i ddarparu copïau o fapiau nad ydynt yn gyfredol; gwneir hyn yn ôl doethineb y Llyfrgell. Bydd y Llyfrgell yn ymgymryd â'r gwaith yn unol â thelerau ac amodau'r Llyfrgell ac ni fydd yn gyfrifol am gamgymeriadau neu esgeulustod.
Ni fydd staff y Tîm Ymholiadau yn dehongli na chynnig unrhyw sylwadau ar unrhyw safle neu wybodaeth a ddarperir gan y mapiau.
Nid yw ein daliadau o fapiau'r Arolwg Ordnans y tu allan i Gymru yn gyflawn, felly nid ydym yn prosesu archebion ar gyfer safleoedd y tu allan i Gymru. (Gall ymwelwyr personol edrych ar y mapiau yn y Llyfrgell).