Symud i'r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth yn edrych dros Fae hyfryd Ceredigion, mae’n gartref i stori Cymru. Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Yn lyfrgell adnau cyfreithiol, mae ganddi hawl i gopi o bob llyfr a gyhoeddir ym Mhrydain. Mae hefyd yn gartref i lyfrau prin, llawysgrifau, archifau, ffilm a fideo, papurau newydd, mapiau, deunydd sain, ffotograffau a gweithiau celf.

Sut i ddarllen yn LlGC

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu gyda’r Llyfrgell ar y manylion isod

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Aberystwyth

Ceredigion SY23 3BU

Ebost: gofyn(at)llgc.org.uk

Ffôn: 01970 632 800

Mae gennym ni hefyd wasanaeth ymholiadau am ddim. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth ar y manylion uchod, neu trwy lenwi ein ffurflen ymholiadau arlein.

Danfon ymholiad

Cyfrannu i'r Llyfrgell

Sefydlwyd y Llyfrgell Genedlaethol gyda rhoddion pobl Cymru. Ei chasgliad craidd oedd casgliad llawysgrifau Hengwrt a roddwyd i'r Llyfrgell gan Syr John Williams. Mae’r traddodiad yma o gefnogi’r Llyfrgell yn parhau hyd heddiw.

O gyfraniadau ariannol i gymynroddion neu gyfrannu eitemau i'r casgliad, mae eich cyfraniad chi i'r Llyfrgell yn diogeli ein hanes a’n traddodiadau i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Mae’r Llyfrgell yma i ddiogeli stori Cymru, beth am i chi ymuno â ni?

Dysgwch fwy am sut i gyfrannu i’r Llyfrgell


Newyddion ac ardal y wasg

Cewch yr holl wybodaeth ddiweddaraf o’r Llyfrgell ar ein tudalennau newyddion yn ardal y wasg.

Beth am ddilyn ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf yn syth i'ch dyfais?

Ewch i ardal y wasg


Gwirfoddoli

Oes gyda chi ddiddordeb yn hanes a threftadaeth Cymru? Ydych chi’n hoffi cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau? Hoffi heriau newydd, cyffrous? Beth am ymuno â’n cynllun gwirfoddolwyr?  

Mae ein prosiectau’n amrywio o heriau unigol o adref, i heriau unigol neu dîm yn y Llyfrgell. Mae’r prosiectau'n cynnwys pethau fel trawsgrifio ac adnabod gwybodaeth neu brofi gwefannau’r Llyfrgell. Mae’r gwaith hwn yn holl bwysig er mwyn rhoi mynediad i'r casgliadau. 

Cyfleon gwirfoddoli a sut i ymuno


Swyddi

Hoffech chi ymuno â thîm un o sefydliadau Cenedlaethol Cymru? Ydych chi’n weithiwr brwdfrydig sy’n hoffi sialens? Ydych chi’n awyddus i gyflwyno stori Cymru i'r byd? Yna efallai mae’r Llyfrgell yw’r lle i chi.

Mae’r Llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth. Beth amdani?

Gwybodaeth am swyddi