Symud i'r prif gynnwys

Oriau agor cyffredinol yr adeilad

  • Dydd Llun – Dydd Gwener: 09:00 - 18:00
  • Dydd Sadwrn: 09:30 – 17:00 

Amserau agor manwl a newidiadau


Sut i Gyrraedd

  • Mae gennym faes parcio pwrpasol.

  • Mae gorsaf dren yn Aberystwyth, a ceir gorsaf fws a thacsi gerllaw iddo

  • Gellir cerdded o’r dref i'r Llyfrgell, ond mae’n cynnwys dringfa serth i fyny Allt Penglais ac yn cymryd oddeutu 20 munud 

Manylion pellach am gyrraedd LlGC


Defnyddio’r Ystafell Ddarllen

Gall unrhyw un dros 16 oed gofrestru fel darllenydd er mwyn defnyddio’n Hystafell Ddarllen.

  • Mae angen dangos 2 brawf adnabod (un yn nodi cyfeiriad cyfredol) i gael tocyn darllen llawn

Gallwch archebu eitemau o’r casgliadau i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen ar y Prif Gatalog ac Archifau a Llawysgrifau LlGC yn unig.

Cofrestru a defnyddio’r Ystafell Ddarllen


Cyfleusterau ac hygyrchedd

Mae'n bwysig iawn i ni fod ymweliad pawb â’r Llyfrgell mor bleserus â phosib.   

  • Mae’r brif fynedfa ar y llawr gwaelod ac yn hollol hygyrch 

  • Mae 2 lifft ar gael i chi eu defnyddio i gyrraedd bob ardal gyhoeddus 

  • Gellir benthyg cadair olwyn ar gyfer eich ymweliad 

  • Ceir toiledau mynediad arbennig ar y llawr gwaelod a’r prif lawr 

  • Mae amrywiaeth o gyfarpar pwrpasol yn yr Ystafell Ddarllen er mwyn eich cynorthwyo gyda’ch hymchwil 

Mwy o wybodaeth am hygyrchedd adeilad y Llyfrgell


Toiledau a loceri 

Mae loceri ar gael (bydd angen darn £1) i gadw eich cotiau a bagiau os dymunwch. Noder nad oes modd mynd â chotiau a bagiau i mewn i'r Ystafell Ddarllen.   

Siop 

Mae siop y Llyfrgell wedi ei lleoli ar y llawr gwaelod ger y dderbynfa. Mae’n cynnig amrywiaeth o nwyddau yn seiliedig ar ein casgliad, llyfrau ac anrhegion chwaethus. Mae’r Llyfrgell yn elusen, felly mae pob eitem y prynir yn ein siop yn ein cefnogi ni.  

Caffi Pen Dinas

Mae caffi Pen Dinas hefyd wedi ei leoli ar y llawr gwaelod ger y dderbynfa. Mae’n cynnig amrywiaeth o brydau a phaneidiau mewn lleoliad cyfforddus. Ceir cyfuniad o gadeiriau â byrddau, a chadeiriau esmwyth â golygfa odidog dros Fae Ceredigion.