Symud i'r prif gynnwys

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd, ac yn un o adeiladau mwyaf eiconig ein cenedl. Adeiladwyd hi ar ddechrau’r 20fed ganrif ar safle urddasol uwchlaw tref glan môr Aberystwyth. O’r Llyfrgell ceir golygfeydd gwych o’r dref, y castell a Bae Ceredigion, ac mae’r adeilad godidog hwn yn lleoliad heb ei ail ar gyfer un o ddiwrnodau pwysicaf eich bywyd.

Am wybodaeth bellach, cymerwch olwg ar ein taflen briodasau.

Os hoffech wneud apwyntiad neu os hoffech wneud ymholiad perthnasol, cysylltwch â'n Cydlynydd Priodasau ar priodas@llgc.org.uk.

  • “Roedd y diwrnod ei hun yn ffantastig. Mae'n lleoliad mor drawiadol, gyda'i fynedfa fawreddog, y grisiau, Ystafell y Cyngor â'i phaneli a'i golygfeydd ysblennydd dros y dref a'r bae, roedd pawb wrth eu bodd.”
     
  • "Dydyn ni ddim yn grefyddol ond rydyn ni wrth ein boddau â llyfrau! Cynigiodd y Llyfrgell, felly, rywle hardd, urddasol i ni briodi mewn lleoliad arbennig. Fel graddedigion o Brifysgol Aberystwyth, roedd hi'n bwysig i ni amlygu'r dref ar ei gorau. Mae'r olygfa o'r Llyfrgell yn ffordd berffaith o wneud hynny."
     
  • "Er mawr tristwch i mi, wnes i erioed gwrdd â'm nheidiau, ond gwn eu bod ill dau yn eu hanterth wedi treulio cryn amser yn y Llyfrgell. Yma felly oedd y lleoliad perffaith i ni briodi a rhannu'r cysylltiad personol hwnnw gyda nhw. A'r ffaith ein bod ni'n creu darn bach o'n hanes ein hunain mewn adeilad â chyfoeth o hanes a deallusrwydd - roedd hi'n teimlo'n arbennig iawn i fod yng nghanol hyn i gyd."

 

Priodasau yn y Llyfrgell Genedlaethol