Symud i'r prif gynnwys

Parcio

Mae 4 lle parcio wedi eu neilltuo yn y maes parcio wrth ochr yr adeilad, wrth y groesfan.

Mynedfa

Mae prif fynedfa'r Llyfrgell (a leolir ar y llawr gwaelod ym mlaen yr adeilad) yn hollol hygyrch gyda ramp a drws awtomatig.

Anifeiliaid

Mae croeso i gŵn cymorth yn yr adeilad gyda'u perchnogion. Mae dŵr ar gael i'r cŵn wrth y brif fynedfa ar y llawr gwaelod.

Lifft

Mae 2 lifft wedi eu lleoli yn ardal y Siop wedi i chi ddod i mewn i'r adeilad.


Cadair Olwyn

Mae 3 cadair olwyn ar gael i'w menthyg i'r cyhoedd o'r brif fynedfa ar y llawr gwaelod. 

Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'r llyfrgell cyn eich ymweliad, er fod staff ar gael trwy'r llyfrgell i'ch cynorthwyo pe bai angen

Cystylltwch â ni ar 01970 632 906 neu 01970 632 532

Toiledau

Mae 3 toiled mynediad arbennig wedi eu lleoli o gwmpas y Llyfrgell

  • Llawr 0 (llawr gwaelod), troi i'r chwith o'r Siop, ac yna troi i'r dde ar ddiwedd y coridor
  • Llawr 0 (llawr gwaelod) y tu ôl i'r prif risiau o Beniarth i'r prif lawr
  • Llawr 1 (prif lawr) wrth ben y prif risiau sy'n dod fyny o Beniarth

Ymholiadau a Mynediadau

Mae taflenni gwybodaeth ar gael mewn ffurfiau arbennig:

  • Taflenni print mawr
  • Taflenni clywedol (gyda chwaraewyr tapiau ar gael o'r Dderbynfa)

Mae holiaduron ynglyn â gwasanaethau'r llyfrgell hefyd ar gael mewn print bras.

Mae gan bob desg ymholiadau rannau isel i alluogi mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn, a dolen glyw.


Pethau i wneud yn LlGC

Ardaloedd Arddangosfeydd a Digwyddiadau

Mae ffolderi ar gael yn yr ardaloedd arddangosfeydd, yn cynnwys y capsiynau mewn print bras. Mae croeso i ymwelwyr fynd â'r rhain o amgylch yr arddangosfeydd gyda hwy, i ddarllen y capsiynnau tra'n edrych ar y gwrthrychau. Mae'r capsiynau hefyd wedi eu gosod ar lefel isel o amgylch yr arddangosfeydd i sicrhau fod defnyddwyr cadair olwyn yn gallu eu darllen. Mae'r blychau arddangos isel wedi eu defnyddio ym mhob arddangosfa, lle y bo modd. Mae cadeiriau wedi eu gosod yn Oriel Gregynog ac o gwmpas y sgrin 'plasma' yn Peniarth.

Siop a Chaffi

Mae'r Siop wedi ei lleoli ar y llawr gwaelod ar y chwith i'r brif fynedfa. Gallwch hefyd siopa trwy ein siop arlein. Os hoffech gysylltu â'r siop ffoniwch 01970 632 548.

Mae Caffi Pen Dinas hefyd wedi ei leoli ar y llawr gwaelod ar y dde i'r brif fynedfa. Mae'n gweini brecwast, cinio a thê. Os hoffech ymweld fel grŵp, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elen Rees ar 01970 632 801 neu gwasanaethau-ymwelwyr@llgc.org.uk

Ystafell Ddarllen

Mae gan y Llyfrgell gyfarpar yn ei Hystafell Ddarllen er mwyn cynorthwyo'r defnydd o'i chasgliadau:

  • peiriannau Smartview ac AverVision i chwyddo llawysgrifau
  • peiriant ScannaR sy'n darllen testun allan yn uchel
  • cyfarpar Supernova sy'n chwyddo a darllen testun yn uchel
  • byrddau sy'n medru cael eu codi a’u gostwng yn ôl yr angen

Mae'r ystafelloedd gwylio a gwrando yn hollol hygyrch.

Awditoriwm y Drwm

Mae'r Drwm yn hollol hygyrch gyda mynediad i gadeiriau olwyn a mannau ar eu cyfer oddi fewn.

Mae system sain is-goch yn y Drwm, a thrwy ddefnyddio clustffôn y Drwm y ceir y sain gorau (gofynnwch i aelod o staff wrth fynd i mewn i'r Drwm). Fel arall, gellir troi eich cymorth clywed i'r pwynt T.

Croesawir cŵn cymorth yn y Drwm.


Diogeledd a diogelwch

Mae’r Llyfrgell yn cadw’r hawl i archwilio pob bag wrth roi mynediad i’r Llyfrgell.

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr ac ymwelwyr sy’n dymuno ymweld â’r Ystafelloedd Darllen adael eu cotiau a’u bagiau yn y loceri sy’n cael eu darparu. Mae angen darn £1 (sy’n cael ei ad-dalu) ar gyfer pob cwpwrdd.

Adrodd argyfwng

Dylid adrodd unrhyw ddamweiniau neu salwch i oruchwylwyr unrhyw Ystafell Ddarllen neu i aelod o'r tîm diogeledd yn y Prif Gyntedd.

Canllawiau Mewn Argyfwng

Mae'r larwm dân yn seinydd electronig di-dor. Dylai darllenwyr ac ymwelwyr adael yr adeilad trwy'r allanfa agosaf neu fel yr arweinir gan aelodau o'r staff. Dylid dilyn yr arwyddion gwyrdd EXIT gan fynd allan i'r teras gwaelod o flaen y Llyfrgell trwy'r drysau ar y llawr gwaelod. Ni ddylid defnyddio'r lifft o dan unrhyw amodau pan seinir y larwm dân.

Mewn achos o argyfwng/gwagio'r adeilad ar frys, os yw hi'n saff i wneud, dylai ymwelwyr anabl adael y llyfrgell trwy'r un drws ac y ddaethant i mewn ar Lawr 0 (llawr gwaelod).

Os oes ymwelwyr anabl ar Lawr 1 (prif lawr), ni ddylid defnyddio'r lifft mewn unrhyw achos, yn hytrach dylid hysbysu aelod o staff am eu presenoldeb.

Mae dwy gilfan argyfwng ar gael i ddefnyddwyr cadair olwyn ar Lawr 1 (prif lawr). Maent wedi eu lleoli:

  • Yn ardal y grisiau yng nghefn Ystafell Ddarllen y De
  • Yn y linc i stac lyfrau 1 yng nghefn Ystafell Ddarllen y Gogledd

Dylai unigolion hysbysu aleod o staff am eu presenoldeb.


Dogfennau perthnasol