Llogi casgliadau
Mae’n bosib llogi eitem(au) o’n casgliadau ar gyfer arddangosfeydd dros dro yn y DU a thramor. Os oes gennych ddiddordeb mewn benthyg eitemau gallwch drafod eich anghenion gyda’n tîm arddangosfeydd.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fusnesau, y cyfryngau ac unigolion.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwasanaethau hyn, mae croeso i chi gysylltu gyda’n Gwasanaeth Ymholiadau.
Yn un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn leoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad. Yn edrych dros fae godidog Ceredigion a thref Aberystwyth, mae’n leoliad fydd yn creu argraff ar eich gwesteion.
Gydag amrywiaeth o ystafelloedd urddasol, a gofodau hyblyg, mae’r Llyfrgell yn leoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, o gyfarfodydd bychan i gynadleddau i briodasau. Gallwn hefyd gynnig amrywiaeth o wasanaethau i hwyluso’ch digwyddiad.
Mae’r Llyfrgell yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei harbenigedd ym maes digido a chadwraeth. Pwy well felly i droi ati am gefnogaeth gyda’ch prosiect cadwraeth neu ddigido chi? Rydym yn hapus i drafod prosiectau bach a mawr, felly mae croeso i chi gysylltu gyda ni.
Mae’n bosib llogi eitem(au) o’n casgliadau ar gyfer arddangosfeydd dros dro yn y DU a thramor. Os oes gennych ddiddordeb mewn benthyg eitemau gallwch drafod eich anghenion gyda’n tîm arddangosfeydd.
Gallwn gynnig gwasanaeth copïo eang i gyd-fynd â’r math o ddeunydd dan sylw. Gallwn greu copïau o eitemau o’r casgliadau, neu ddarparu copïau o’ch deunydd personol chi.
Gallwn hefyd ddarparu copïau o fapiau hanesyddol ar gyfer archwiliad safle masnachol ac awdit amgylcheddol.
Mae cyfoeth casgliadau’r Llyfrgell yn cynnig ei hun i gyhoeddiadau a’r cyfryngau digidol fel ei gilydd, ac rydym yn awyddus iawn i weld ein casgliadau’n cael eu defnyddio. Mae’n ffordd arbennig i rannu’r trysorau sydd gennym â’r byd, ac i rannu stori Cymru.
Mae adeilad y Llyfrgell hefyd ar gael fel lleoliad ar gyfer ffilmio’r casgliadau neu ddarnau i'r camera. Yn un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru gyda’i golygfa bendigedig dros Fae Ceredigion a thref Aberystwyth, mae’n leoliad ffilmio perffaith.