Symud i'r prif gynnwys

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth penodol ar gyfer eich astudiaethau academaidd, neu’n chwilio’n gyffredinol am rywbeth i'ch helpu gyda’ch ymchwil hanes teulu, y Llyfrgell yw’r lle i chi.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am ein catalogau a sut i'w defnyddio.


Prif Gatalog

Mae’r Catalog yn caniatau i chi chwilio ar draws holl gasgliadau’r Llyfrgell ac archebu deunydd i'w gweld yn ein Hystafell Ddarllen. Cofiwch fod angen i chi ymaelodi â’r Llyfrgell cyn y gallwch archebu deunydd. Cewch fwy o wybodaeth am y broses ar ein tudalen Tocynnau Darllen.

Mae’r Prif Gatalog yn fan cychwyn da os yw eich chwiliad yn un cyffredinol. Mae ein casgliadau’n helaeth, felly mae modd cyfyngu eich chwiliadau er mwyn lleihau’r nifer o ganlyniadau.

Mynd i Gatalog y Llyfrgell

Catalogau Arbenigol

Gan fod ein casgliadau mor amrywiol, mae gennym nifer o gatalogau mwy arbenigol sy’n chwilio ar draws mathau neu setiau penodol o’r casgliadau yn unig. Mae nifer o'r catalogau hyn yn caniatáu i chi weld yr eitemau ar y wefan.

Nid oes modd archebu deunydd i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen ar y Catalogau hyn. Rhaid defnyddio’r Prif Gatalog neu Archifau a Llawysgrifau LlGC i archebu deunydd.

Chwilio catalogau arbenigol LlGC

Adnoddau Eraill

Mae cyfrannu ein casgliadau i wefannau chwilio bobl eraill yn rhan bwysig o’n gwaith er mwyn rhoi mynediad i gymaint o bobl â phosib i'n casgliadau. Gall hyn fod yn eitemau unigol i'w darganfod ar wefannau fel Wikicommons neu’n arddangosfeydd o’n heitemau ar wefannau fel Google Arts and Culture.

Rhestr o adnoddau eraill


Am y Casgliadau

Mae gennym dros 6 miliwn o lyfrau, dros 40,000 o lawysgrifau, dros 1.5 miliwn o fapiau ym mysg llawer iawn o bethau eraill. Rydym yn Lyfrgell Adnau Cyfreithiol sy’n golygu fod hawl gennym i gopi o bob llyfr a gyhoeddir ym Mhrydain. Ein prif faes casglu yw eitemau’n ymwneud â Chymru a’r gwledydd Celtaidd, ond nid yw ein casgliadau wedi eu cyfyngu i hyn.

Mae’r adran hon felly’n rhoi syniad i chi o’r math o gasgliadau sydd gennym. Nid yw’n rhestr gyflawn o bell ffordd, ond mae’n gyflwyniad bras i chi. Gallwch chwilio ein Prif Gatalog am eitemau unigol.

Dysgu mwy am gasgliadau LlGC


Help i Chwilio

Ai dyma’r tro cyntaf i chi ddefnyddio’n catalogau ac adnoddau chwilio? Neu ydych chi eisiau gwella’ch sgiliau chwilio?

Porwch drwy'r adran cymorth i chwilio am dudalennau cymorth, tips a thaflenni ar sut i ddechrau a gwella'ch chwilio. 

Cymorth i chwilio


Defnyddio’r Ystafell Ddarllen

Gall unrhyw un dros 16 oed gofrestru fel darllenydd er mwyn defnyddio’n Hystafell Ddarllen.

  • Mae angen dangos 2 brawf adnabod (un yn nodi cyfeiriad cyfredol) i gael tocyn darllen llawn

Gallwch archebu eitemau o’r casgliadau i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen ar y Prif Gatalog ac Archifau a Llawysgrifau LlGC yn unig.

Cofrestru a defnyddio’r Ystafell Ddarllen