Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
David Lloyd George (1863-1945) yw'r gwladweinydd rhyngwladol mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed. Bu ei ddylanwad yn drwm ar wleidyddiaeth Cymru, Prydain ac Ewrop. Bu'n aelod seneddol Rhydfrydol am hanner can mlynedd gan wasanaethu mewn llywodraeth fel Llywydd y Bwrdd Masnach (1905-08), Canghellor y Trysorlys (1908-15), Gweinidog Arfau (1915-16) a Gweinidog Rhyfel (1916). Ym mis Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog ar ganol y Rhyfel Byd Cyntaf. Daliodd ei afael ar swydd y Prif Weinidog tan 1922. Am weddill ei yrfa seneddol ni chafodd unrhyw swydd mewn llywodraeth. Yn 1945 fe'i hurddwyd yn Iarll Lloyd-George o Ddwyfor, ond bu farw ddeufis yn ddiweddarach.
Crewyd yr arddangosfa hon dan nawdd Cymru'n Cofio er mwyn cyflwyno bywyd a gwaith David Lloyd George, yn arbennig felly ei gyfraniad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'n cynnig mynediad at ddeunydd gwreiddiol sy'n cynnwys ffotograffau a llythyron, clipiau fideo a dyddiadur a llythyrau gan ysgrifennydd personol Lloyd George o Gynhadledd Heddwch Versailles. Mae'r eitemau yma ynghyd yn cynnig darlun o David Lloyd George y Gwladweinydd ar un o'r adegau mwyaf cythryblus yn hanes modern Prydain, ond nid yn unig hynny, maent hefyd yn cynnig cipolwg ar fywyd personol un o feibion enwocaf Cymru.