Symud i'r prif gynnwys

Papurau Newydd

Gallwch bori Papurau Newydd Cymru Arlein i ddarganfod 15 miliwn o erthyglau a 1.1 miliwn o dudalennau’n dyddio rhwng 1804-1919. Gweler hefyd ein catalog arlein.

Llyfrau Ffoto

Casgliad A J Sylvester
Dros 500 o ffotograffau wedi’u tynnu gan A. J. Sylvester o David Lloyd George, ei deulu a’i osgordd. Gellir gweld y rhain yn galeri casgliad A. J. Sylvester.

Llyfr Ffoto Maesygwernen
Llyfr ffoto ‘Simplico’ yw albwm Maesygwernen. Mae’n cynnwys 24 ffotograff yn gysylltiedig ag ymweliad Lloyd George â Neuadd Maesygwernen a Threforys ym mis Awst 1918.

Llyfr Ffoto y Fonesig Margaret Lloyd George
Cymhwyswyd y llyfr ffoto isod gan y Fonesig Margaret Lloyd George ac mae’n cynnwys ffotograffau o deulu Lloyd George: y Fonesig Margaret ei hun, Arglwyddes Megan a David Lloyd George.

Casgliad Olwen Carey Evans 10
Mae’r llyfr ffoto yma’n cynnwys 162 ffotograff sy’n rhan o Gasgliad Olwen Carey Evans. Portreadir gyrfa a bywyd teuluol Lloyd George drwy’r delweddau.

Casgliad Olwen Carey Evans 6
Dyma albwm o 205 ffotograff sy’n perthyn i Gasgliad Olwen Carey Evans. Mae'n cynnwys cymysgedd o gipluniau teuluol a lluniau o’r wasg, ac maent oll yn dyddio o gyfnod David Lloyd George fel Prif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Archif Sgrin a Sain

(Am ddisgrifiadau llawn, ewch i'r cofnodion catalog)

Clip digidol: Angladd David Lloyd George yn Llanystumdwy, Groglith 1945

Cofnod catalog: Angladd David Lloyd George yn Llanystumdwy, Groglith 1945

  • Angladd David Lloyd George.

 

Clip digidol: 1934 Spirits from the Vasty Deep

Cofnod catalog: 1934 Spirits from the Vasty Deep

  • Cyfarfod ym Mrynawelon i drafod ‘New Deal’ y Blaid Ryddfrydol.

 

Clip digidol: Rotatiller and Caterpillar Tractor, Oct. and Nov. 1938

Cofnod catalog: Rotatiller and Caterpillar Tractor, Oct. and Nov. 1938

  • Ffilm o David Lloyd George yn siarad â’r camera ym Mron-y-de, saethwyd gan A. J. Sylvester
  • Dengys hefyd peiriant newydd ar waith ym Mron-y-de.

 

Cofnod catalog: Mr Lloyd George Speaking at Daniel Owen’s Centenary Celebrations at Mold July 30th 1939.

  • David Lloyd George yn sefyll ymhlith y coed ffrwythau yn eu blodau ar ei fferm yn Churt, Swydd Surrey
  • David Lloyd George yn edmygu’r moch bach ac yn bugeilio’r defaid ar ei fferm, Bron-y-de
  • David Lloyd George yn annerch torf niferus ar achlysur dathlu canmlwyddiant geni Daniel Owen
  • David Lloyd George yn agor Canolfan Ddinesig Bodlondeb, Conwy
  • Yr ardd flodau ym Mron-y-de ar ddiwrnod o haf
  • Teulu Lloyd George wrth y bwrdd brecwast, ar y cyfandir o bosib
  • Paratoadau ar gyfer ymweliad y Brenin Siôr VI a’r Frenhines Elisabeth â Chaernarfon
  • David Lloyd George mewn seremoni anhysbys yn yr awyr agored.

 

Cofnod catalog: Criccieth Beach, Aug. 1938

  • David Lloyd George yn mwynhau picnic yn y mynyddoedd gyda’i deulu estynedig ym Mlaenau Ffestiniog
  • David Lloyd George a’i wraig, Margaret, yn hel afalau ym mhrif berllan Bron-y-de.

 

Clip digidol: David Lloyd George's Golden Wedding Anniversary

Cofnod catalog: David Lloyd George's Golden Wedding Anniversary

  • David Lloyd George yn chwarae golff yn Antibes, lle teithiodd ei deulu i ddathlu priodas aur ef a Margaret
  • Cinio arbennig i ddathlu priodas aur Lloyd George a Margaret gyda’r teulu yng ngwesty’r Cap d’Antibes
  • Casglu cangau o’r coed llawrydd ym Mron-y-de, Swydd Surrey
  • Gwilym Lloyd George, ei wraig Edna Gwenfron a’u mab William yn cerdded gyda Lloyd George trwy ei ardd yn Churt, Swydd Surrey
  • Cychod gwenyn newydd ym Mron-y-de; Gwelwn William, wŷr Lloyd George, yn archwilio’r cychod gwenyn newydd; Gwerthwyd y mêl yn siopau Harrods a Fortnum & Mason yn Llundain.

 

Cofnod catalog: Sheep Shearing, Rhododendrons, Blossom

  • David Lloyd George yn goruchwylio’r cneifio ar ei fferm, Bron-y-de.

 

Clip digidol: Lloyd George with Dogs and Book

Cofnod catalog: Lloyd George with Dogs and Book

  • David Lloyd George gartref gyda’i gŵn.

 

Clip digidol: Official Opening of the New Civic Centre Bodlondeb, Conway, by Rt. Hon. D. Lloyd George, OM, MP

Cofnod catalog: Official Opening of the New Civic Centre Bodlondeb, Conway, by Rt. Hon. D. Lloyd George, OM, MP

  • David Lloyd George yn agor Canolfan Ddinesig Bodlondeb, Conwy.

 

Cofnod catalog: "Peace Conference" at Lympne

  • David Lloyd George yn cyfarfod â Phrif Weinidog Ffrainc ym mhlasty Port Lympne yn ‘Cynhadledd Hythe’.

 

Cofnod catalog: Llandudno - A Call to Save the World

  • David Lloyd George yn rhoi araith yng nghyfarfod Cyngor Cenedlaethol y Rhyddfrydwyr Cymreig, Llandudno.

 

Cofnod catalog: Mr Lloyd George's Historic Visit to Birmingham

  • Ymweliad David Lloyd George â Birmingham er mwyn derbyn Rhyddid y Ddinas a gradd er anrhydedd.

 

Cofnod catalog: Downing St. in Buckinghamshire

  • Ymweliad cyntaf David Lloyd George â Chequers, plasty yn Swydd Birmingham a roddwyd gan yr Arglwydd Lee o Fareham i’w ddefnyddio gan Brif Weinidog Prydain fel cartref gwledig swyddogol.

 

Cofnod catalog: Searching Germany's Pockets

  • David Lloyd George yn teithio i Ffrainc ar gyfer trafodaethau heddwch, mae’n croesi’r sianel ar stemar, ac wedi iddo gyrraedd, fe’i croesawir gan Faer Calais.

 

Cofnod catalog: Prime Minister's Hard Earned Holiday

  • David Lloyd George yn treulio amser gartref gyda’i deulu yng Nghricieth cyn teithio i San Remo yn yr Eidal ar gyfer cynhadledd ryngwladol.

 

Clip digidol: Hepworth Cinema Interviews - I, II and III

Cofnod catalog: Hepworth Cinema Interviews - I, II and III

  • Dyma gyfres o gyfweliadau gyda phobl amlwg y dydd er mwyn ennyn cefnogaeth y cyhoedd i’r Rhyfel Mawr.

 

Clip digidol: Machynlleth, Hen Dref Owain Glyndwr

Cofnod catalog: Machynlleth, Hen Dref Owain Glyndwr

  • Bob blwyddyn, arferai David Lloyd George ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol, gan roi anerchiad fel Llywydd y Dydd o lwyfan y Pafiliwn; am flynyddoedd, cyfeiriwyd at ddydd Iau, diwrnod ei ymweliad, fel ‘Diwrnod Lloyd George’.

 

Clip digidol: Nefyn - disgyblion, cymeriadau a Lloyd George

Cofnod catalog: Nefyn - disgyblion, cymeriadau a Lloyd George

  • Ymddengys mai David Lloyd George yw’r prif atyniad yn Sioe Nefyn ym Mhenryn Llŷn.

 

Cofnod catalog: Welsh Flag for the Premier

  • ‘Carnarvon Women’s Association’ yn cyflwyno baner i Lloyd George a’i wraig i gydnabod eu hymdrechion i sicrhau’r bleidlais i fenywod.

 

Cofnod catalog: Farmer Lloyd George and his Robot

  • David Lloyd George ar gamera yn trafod y dechnoleg ddiweddaraf ym maes amaethyddiaeth, defnydd tir amaethyddol a sut i gynhyrchu mwy o fwyd.

 

Cofnod catalog: Mr Lloyd George Visits the Plaza Cinema, Cardiff.

  • Ffilm newyddion am ymweliad David Lloyd George â Chaerdydd yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 1929.

 

Clip digidol: Aberystwyth and Bangor - "Rag", Lloyd George and the Price of Wales

Cofnod catalog: Aberystwyth and Bangor - "Rag", Lloyd George and the Price of Wales

  • Ffilm newyddion yn dangos ymweliad David Lloyd George ag Aberystwyth ym mis Gorffennaf 1922 er mwyn cymryd rhan yn nathliadau hanner can mlwyddiant sefydlu prifysgol gyntaf Cymru.

 

Clip digidol: Visit of the Rt.Hon. D. Lloyd George, OM, MP to Germany, September 2nd-16th, 1936

Cofnod catalog: Visit of the Rt.Hon. D. Lloyd George, OM, MP to Germany, September 2nd-16th, 1936

  • Yn ystod ei ymweliad â’r Almaen, trefnwyd cyfarfod rhyngddo â Hitler yn ei dŷ haf yn yr Alpau. Yn y clip hwn gwelwn gar Lloyd George yn teithio ar hyd un o draffyrdd newydd yr Almaen
  • David, Gwilym a Megan Lloyd George yn cael brecwast gyda’i gilydd yn y Grand Hotel yn nhref Brechtesgaden
  • David a Megan Lloyd George yn siopa
  • David a Megan yn ymweld ag atyniadau yn ardal Berchtesgaden
  • Yn dilyn cinio gyda von Ribbentrop, mae Lloyd George a’i barti yn ymlacio ar feranda
  • Hitler yn croesawi Lloyd George a’i barti i’r Berghof
  • Ar y ffordd yn ôl i Munich mae parti Lloyd George yn aros am ginio yn Haus Lambach
  • Un o barti Lloyd George yn cael trafferth gyda’i gar wrth deithio o Ferchtesgaden i Munich
  • Yng nghwmni von Ribbentrop, mae Lloyd George yn gosod torch ar y gofeb rhyfel ym Munich
  • Tu allan i bencadlys y Blaid Natsiaidd ym Munich.

 

Clip digidol: The Life Story of David Lloyd George

Cofnod catalog: The Life Story of David Lloyd George

  • Mae ffilm fud Maurice Elvey, a fu ar goll am flynyddoedd maith, yn olrhain bywyd Lloyd George o’i blentyndod hyd ddiwedd y Rhyfel Mawr, gan ddefnyddio actorion a llu o bobl gyffredin i adrodd hanes ei fywyd.

 

Cofnod catalog: Speech on the Budget (1909)

  • Araith ar y gyllideb (1909)

 

Cofnod catalog: Unemployment and the Liberal Party (1929)

  • “Gallwn orchfygu diweithdra” (1929)

 

Cofnod catalog: Why Should We Not Sing?

  • Araith o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth.

Llawysgrifau a Deunydd Archifol

Llawysgrifau Lloyd George

Casgliad o bapurau (1886-1968) yn perthyn i deulu Lloyd George. Llythyron yw’r rhan fwyaf o’r casgliad ac y mae rhan helaeth ohonynt wedi’u cyfeirio at David Lloyd George.

Frances Stevenson Family Papers

Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o ddogfennau cysylltiedig â Lloyd George, yn benodol rhwng 1912 a 1965.

Llythyron David Lloyd George, 1934-1943

Llythyr mewn teipysgrif o 1935; oddi wrth David Lloyd George i James Reid, golygydd y Dumfries Standard, a thri llythyr oddi wrth A. J. Sylvester, Prif Ysgrifennydd Personol y Prif Weinidog, i’r golygydd.

Gohebiaeth Lloyd George – Arglwyddes Julia Henry

Gohebiaeth rhwng David Lloyd George ac Arglwyddes Julia Henry.

Llythyron Lloyd George i’w wraig

Llungopi o lythyr oddi wrth Lloyd George i’w wraig Margaret, 26 Awst [1921].

Llyfr cytundebau David Lloyd George

Cytundebau amrywiol o 1922 yn ymwneud â chyhoeddi ‘Lloyd George’s War Memoirs’ gan wasg Cassell, ynghyd a’i werthiant i’r Sunday Times. Mae’r casgliad yn cynnwys y ddau brif gytundeb a arwyddwyd gan gyfarwyddwyr y wasg argraffu a Syr William Berry (ond nid yr awdur). Ceir hefyd deg memorandwm ar gyfer yr hawliau rhyngwladol, tri wedi’u llofnodi gan Lloyd George ac un gan Frances Stevenson.

Llungopïau David Lloyd George

Llungopi o gerdyn cydnabyddiaeth cyfrwng Cymraeg a ddanfonwyd at Margaret Jones, Tremadog, a’i gŵr gan David Lloyd George yn dilyn ei ben-blwydd yn wythdeg mlwydd oed, Ionawr 1943. Ceir hefyd llungopi ffotograff o arch Lloyd George yn cael ei gludo gan weithwyr ystâd Tŷ Newydd, Llanystumdwy, mis Mawrth 1945.

Nodiadau ar David Lloyd George

Nodiadau a thrawsgrifiadau [1968 – 1973] o gyfrolau amrywiol a gweithiau hanesyddol yn trafod David Lloyd George. Ceir hefyd rhai toriadau o’r wasg yn y casgliad.

Papurau’n ymwneud â David a Gwilym Lloyd George

Casgliad o eitemau amrywiol, 1859-1967, yn cynnwys cyhoeddiadau, teipysgrifau, a thoriadau o’r wasg, yn ymwneud â David Lloyd George.

‘The wizard, the goat and the man who won the war’

Copi archifol o sgript y ddrama lle bu Richard Elfyn yn cymeriadu Lloyd George, Tachwedd 2011- Ebrill 2012, ynghyd â rhaglen y digwyddiad.

David Lloyd George (Coalition Liberal Organistion) Papers

Papurau a grëwyd ac a gasglwyd gan George Scovell, a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Coalition Liberal Organisation, a ddaeth yn ddiweddarach yn National Liberal Party. Mae'r archif yn ymwneud yn bennaf â'r cyfnod pan oedd Lloyd George yn Brif Weinidog ac mae'n cynnwys gohebiaeth ar faterion plaid, adroddiadau ar ymgyrchoedd a chyflwr trefniadaeth pleidiau mewn gwahanol rannau o'r DU yn ogystal â nifer o sesiynau briffio dyddiol a baratowyd ar gyfer Lloyd George ar ddiwrnod y dydd. gwasgwch. Mae'r casgliad heb ei gatalogio ar hyn o bryd.

Rev. J. T. Rhys (Margaret Lloyd George) Papers

Copïau o areithiau gan y Fonesig Margaret Lloyd George mewn gwahanol ddigwyddiadau yn cynnwys cyfarfodydd gwleidyddol, digwyddiadau elusennol, agor ysgolion, arddangosfeydd, ffeiriau nwyddau, dadorchuddio cofeb ryfel, a chyflwyno gwobrau.

 

Papurau Arglwydd Davies Llandinam

  • Gohebiaeth busnes a phapurau cyffredinol
    Llythyron achlysurol, gan gynnwys copi teipysgrif o lythyr oddi wrth D. Lloyd George, 8 Mawrth 1919, yn trafod yr angen am ‘Educational Recreation for the workers'.
  • Rhyfel Byd Cyntaf
    Mae’r casgliad yn cynnwys copi stensiliedig o lythyr, 11 Rhagfyr 1916, oddi wrth Lloyd George i Aelodau Seneddol y Blaid Ryddfrydol, wedi iddo ennill swydd y Prif Weinidog.
  • Lloyd George a’r Senedd
    Ceir ymysg y papurau llythyron oddi wrth David Davies i Lloyd George yn ei annog i ymddiswyddo o’r Llywodraeth.
  • Ymweliad â Rwsia
    Gohebiaeth a phapurau yn trafod ymweliad David Davies â Rwsia ym mis Ionawr 1917. Ceir hefyd rhai deunydd yn amlinelli’r broses o ffurfio Ysgrifenyddiaeth y Prif Weinidog, Lloyd George.
  • Memoranda Swyddfa’r Rhyfel
    Memorandwm yn cynnwys rhestr o adfilwyr rhwng Ionawr a Gorffennaf 1916 a nodiadau ynghylch taith posib Lloyd George i Ffrainc.

Llythyron a phapurau amrywiol

  • David Lloyd George
    Llythyr mewn llawysgrifen, 14 Mehefin 1898, oddi wrth David Lloyd George, Tŷ’r Cyffredin i Sidney Robinson, yn gwrthod ei wahoddiad i gyfarfod ar y dydd Gwener ganlynol (17 Mehefin) oblegid ar y diwrnod hwnnw fe drefnwyd dadl ar ariannu addysg yn y Senedd.
  • Nodiadau gan David Lloyd George
    Llawysgrif yn cynnwys nodiadau mewn inc a phensil, (1922), yn llawysgrifen David Lloyd George. Trafoda Lloyd George y system anrhydeddu ym Mhrydain. Ymddengys bod y nodiadau’n cyfeirio’n benodol at ei ddatganiad ar y mater yn Nhŷ'r Cyffredin ar 17 Gorffennaf 1922, a hynny yn ystod ‘scandal yr anrhydeddau’.
  • Llythyr i David Lloyd George
    Llythyr (dyddiedig 27 Gorffennaf 1911), oddi wrth John L. Griffiths, sef Prif Gonswl yr Unol Daleithiau yn Llundain, i David Lloyd George, Canghellor y Trysorlys, yn diolch iddo am drefnu seddau ar ei gyfer yn Arwisgiad y Tywysog Edward (yn ddiweddarach Brenin Edward VIII a Dug Windsor) fel Tywysog Cymru, yng Nghastell Caernarfon ar y 13eg o Orffennaf 1911.
  • Llythyr Margaret Lloyd George
    Llythyr (posib 27 Mai 1928), oddi wrth Margaret Lloyd George, Kensington, i Mr Lewis. Trafoda’r ffaith i’w merch Megan gael ei dewis fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr yn Ynys Môn. Ceir hefyd cerdyn Nadolig oddi wrth David a Margaret Lloyd George, Brynawelon, Cricieth, 1927, ac mae’r cerdyn yn cynnwys portread o’r pâr.
  • Llythyron amrywiol
    Lythyron amrywiol, 1900-1995.
  • NLW MS 24044D, ff. 76-79 
    Llythyr oddi wrth Lloyd George at Syr Edward Brabrook yn trafod y Mesur Yswiriant Gwladol

Papurau W. Llewelyn Williams

  • Llythyron oddi wrth David Lloyd George
    Llythyron at W. Llewelyn Williams oddi wrth David Lloyd George, 1902-1924. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn trafod materion gwleidyddol a phroffesiynol.
  • Llythyron cydymdeimlo
    Llythyron a thelegraffau o gydymdeimlad i Mrs Llewelyn William yn dilyn marwolaeth ei gŵr ym mis Ebrill, 1922, gan gynnwys llythyr oddi wrth David Lloyd George.
  • Dyddiadur
    Dyddiadur W. Llewelyn Williams, 1906-1915, wedi ei gadw yn anghyson. Serch hynny ceir rhai cofnodion hirfaith ganddo sy'n trafod ei waith gwleidyddol yn dilyn etholiad llwyddiannus 1906. Cyfeiria at amryw o ddadleuon Tŷ’r Cyffredin a chofnoda ei farn bersonol ynghylch rhai Aelodau Seneddol. Mae’r gyfrol hefyd yn trafod ei gyfeillgarwch â David Lloyd George a’r chwâl yn eu perthynas hefyd.

Papurau Gareth Vaughan Jones

  • Papurau ynghlwm â Gareth Vaughan Jones
    Mae’r casgliad yn cynnwys eitemau cysylltiedig â Gareth Jones, gan gynnwys llungopi o lythyr hirfaith, a ddanfonwyd 27 Ionawr 1933, oddi wrth Gareth Jones i David Lloyd George yn fuan wedi iddo adael ei staff.
  • Churt 1931
    Llyfr nodiadau â’r label ‘Churt 1931’ yn cynnwys nodiadau ar faterion gwleidyddol, er enghraifft diweithdra, materion tramor, a Llywodraeth Genedlaethol 1931. Fe baratowyd y nodiadau pan oedd yn gyflogedig gan David Lloyd George fel ymchwilydd.
  • Dyddiadur o’i wasanaeth gyda Lloyd George
    Dyddiadur yn cynnwys cofnodion manwl yn dyddio rhwng 31 Rhagfyr 1929 – 13 Tachwedd 1930. Mae’r rhan helaeth o’r cofnodion yn trafod profiadau Gareth Jones pan oedd yn gyflogedig gan David Lloyd George fel ymchwilydd.
  • Llythyron o UDA, Japan, Hong Kong a Tsieina
    Ceir llythyron cynnar yn y casgliad, wedi’i danfon yn bennaf o Thames House yn Llundain pan oedd Gareth Jones yn gweithio fel ymchwilydd i dîm David Lloyd George. Yn ei lythyron, disgrifia Gareth Jones natur ei waith yn Llundain ynghyd a’r bobl ddiddorol y cyfarfu a hwy yn rhinwedd ei swydd. Cyfeiria hefyd at deithiau i leoliadau amrywiol.
  • Nodiadau gwleidyddol
    Llyfr nodiadau â’r label ‘LG at Churt’, wedi’i gadw tra bu Gareth Jones yn ymchwilydd i dîm David Lloyd George.

Toriadau o’r wasg A. Osmond William

  • Llythyron a thoriadau o’r wasg
    Mae’r llythyron yn y casgliad hwn yn cynnwys cymysgedd o gyfarchion, cydnabyddiaethau, busnes cyffredinol a materion etholaethol. Ymysg y gohebwyr ceir gweinidogion cabinet, cefnogwyr y blaid Ryddfrydol, ymgyrchwyr o Feirionnydd, ynghyd â’r gwladweinwyr: Henry Campbell-Bannerman, 1901, 1903; Yr Arglwydd Rosebery, 1902; H. H. Asquith, 1902; A. J. Balfour, 1902; a David Lloyd George, 1903.

Llawysgrifau Thomas Gee

  • Llythyron
    Cyfrolau yn cynnwys oddeutu chwe chant o lythyron, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u cyfeirio at Thomas Gee. Maent yn trafod materion amrywiol, yn benodol ym meysydd addysg, dirwest, crefydd a gwleidyddiaeth. Ceir llythyron oddi wrth David Lloyd George yn y casgliad.

Llawysgrifau W. Goscombe John

  • Llythyron i W. Goscombe John
    Pumdeg ac wyth o lythyron a chardiau, 1889-1953, a danfonwyd y rhan fwyaf ohonynt i Syr W. Goscombe John o ohebwyr amrywiol, gan gynnwys cerflunwyr, artistiaid, gwladweinwyr a gwleidyddion. Mae David Lloyd George yn eu plith.

Papurau C. Tawelfryn Thomas

Papurau Syr Clough Williams-Ellis

  • Amgueddfa Lloyd George
    Llythyron, ymatebion a phapurau yn trafod adeiladu amgueddfa goffaol Lloyd George yn Llanystumdwy, gan gynnwys llythyron oddi wrth Frances, Duges Lloyd George o Ddwyfor, 1951.
  • Gohebiaeth bersonol
    Llythyron, o natur bersonol yn bennaf. Maent yn cynnwys llythyron oddi wrth Iarll Lloyd George o Ddwyfor.

Llawysgrifau Frondirion

  • Amrywiol
    Mae’r casgliad yn cynnwys drafft o’r erthygl ‘Mr. Lloyd George, M.P., and the Goleuad’, sy’n trafod Datgysylltu a gweithrediadau gwleidyddol Mr. Lloyd George yn ôl polisïau Rhyddfrydwyr Cymreig.

Papurau Olwen Carey Evans

  • David Lloyd George
    Papurau teuluol, 1880-1990, yr Arglwyddes Olwen Carey-Evans. Yn y casgliad ceir cymhwysiad o lythyron, llyfrau nodiadau, llyfrau lloffion, a gohebiaeth deuluol. Mae yna grŵp bychan o bapurau’n ymwneud â David Lloyd George.

Papurau O. Llew Owain

  • Papurau amrywiol
    Papurau amrywiol, 1856-1939, sy’n ymwneud yn bennaf â Sir Gaernarfon, gan gynnwys copïau teipysgrif o ddwy araith a draddodwyd gan David Lloyd George, un ohonynt yng Nghaernarfon ym Mehefin 1930, a’r naill ym Mangor, 17 Ionawr 1935.

Papurau William George (Cyfreithiwr)

  • David Lloyd George
    Mae’r casgliad yn cynnwys dyddiaduron a nodiadau ar ddarnau o bapur, wedi’u cofnodi gan David Lloyd George, ynghyd ag amrywiaeth o lythyron, wedi’i hysgrifennu at, ac oddi wrth, Lloyd George.
  • Cynnwys Casgliad William George (PDF 2.48MB) (gan gynnwys llythyrau David Lloyd George) Saesneg yn unig

Papurau E. T. John

  • Oddi wrth E. T. John i D. Lloyd George
    Cydnabyddiaeth o ymateb Lloyd George ynghylch refeniw treth y pedair sir gartref. Cyllid ffederal hunanlywodraethol. Mae’n gofyn i Lloyd George sicrhau y trinnir Cymru fel endid ym mhob gohebiaeth a ffurflenni llywodraethol. Teipysgrif.

Papurau Edward Morgan Humphreys

Papurau Dr Thomas Jones

  • Prif Weinidogion
    Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth, memoranda a phapurau yn trafod y pedwar Prif Weinidog y gwasanaethodd Thomas Jones, gan gynnwys David Lloyd George.

Papurau Thomas Edward Ellis

Papurau Sir John Herbert Lewis

Papurau W. Watkin Davies

Papurau Syr John Rhys