Symud i'r prif gynnwys

Llun pennawd: Matías Valenzuela ©

 

Mae fersiwn Sbaeneg o'r arddangosfa yma hefyd ar gael. También está disponible una versión en español de esta exposición.

Safbwyntiau brodorol ar yr ymsefydlu Cymreig ym Mhatagonia

 

Mae’r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd cyflwyniadau creadigol sydd yn ymwneud â hanes Chubut a gynhyrchwyd yn sgil galwad am gyfraniadau a luniwyd fel rhan o’r prosiect “Problemateiddio Hanes: Safbwyntiau brodorol ar yr ymsefydlu Cymreig ym Mhatagonia”. Ymatebodd artistiaid Mapuche Tehuelche i’r gwahoddiad i fyfyrio’n feirniadol ar wladychiaeth ymsefydlwyr a’i naratifau sylfaenol, sydd yn portreadu’r berthynas rhwng y bobloedd frodorol, y mewnfudwyr Cymreig a Gwladwriaeth yr Ariannin fel un o “ddiwylliannau’n cyfarfod yn gytûn”. Mae’r naratifau hyn yn gwneud atgofion Mapuche Tehuelche yn anweledig ac yn tawelu eu tystiolaeth am y dadleoli gorfodol, y difeddiannu a’r adfeddu cenedlaethol a fu. I’r gwrthwyneb, nod y prosiect hwn yw amrywio’r safbwyntiau ar sefydlu Patagonia, gan ailymweld â gweithiau ymchwil diweddar, llwybrau a phrofiadau bywyd, tystiolaeth lafar, ac atgofion a wnaethpwyd yn anweledig, a’u gwadwyd, neu a’u gwthiwyd i’r ymylon.

Hoffech chi ddarganfod mwy am y prosiect? Ceir mwy o fanylion yma.
 

Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich sylwadau ar yr arddangosfa. Gadewch i ni wybod eich barn yma!