Symud i'r prif gynnwys

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o brif sefydliadau diwylliannol y byd, gan roddion pobl Cymru.

Bydd eich cefnogaeth chi heddiw’n parhau’r traddodiad anrhydeddus hwnnw ac yn gwneud cyfraniad pellgyrhaeddol i Gymru.

Gwneud Cyfraniad

Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni ar rhoddion@llgc.org.uk

Statws Cyfreithiol

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gorff a ymgorfforwyd gan Siartr Frenhinol, ac mae hefyd yn elusen (rhif cofrestredig: 525775) ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC).

Polisi Ad-dalu

Rydym yn gweithredu polisi ad-dalu. Os byddwch yn newid eich meddwl am unrhyw reswm ynglŷn â chyfrannu tuag at LlGC, a fyddech cystal â’n hysbysu ar rhoddion@llgc.org.uk neu ffonio 01970 632 938 o fewn 28 diwrnod er mwyn i ni ad-dalu eich cyfrif.

Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth lawn am eich cyfraniad ynghyd â dangos copi digidol o’r dderbynneb a e-bostiwyd atoch pan wnaethoch eich cyfraniad.

Ymholiadau Cyffredinol

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Swyddfa Codi Arian,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3BU.
+ 44 (0) 1970 632 938
cefnogwch-ni@llgc.org.uk