Datganiad Hygyrchedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (y cyfeirir ati hefyd yn y ddogfen hon fel ‘ni’, ‘ein’, ‘y Llyfrgell’) yn ymrwymedig i sicrhau mynediad digidol hygyrch i bawb.
Mae’r datganiad hwn yn cwmpasu ein holl wefannau.
Ein hymrwymiad i hygyrchedd
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymrwymo i wella hygyrchedd ar draws ein gwefannau, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymhwysiadau (applications) symudol) (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018.
Mae Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) yn esbonio sut i wneud eich gwefannau mor hygyrch â phosib. Mae gan y canllawiau 3 lefel o hygyrchedd (A, AA, AAA).
Rydym yn gweithio tudag at gyraedd a chadw safon Lefel AA ar draws ein gwefannau.
Beth sydd wedi ei wneud?
Profi
Rydym wedi profi pob un o’n gwefannau, ac wedi adnabod problemau i’w datrys.
Fe ddefnyddiom ni un o 2 declyn, yn ddibynnol ar y math o wefan:
- Total Validator Pro
- Deque Axe
Mae mwyafrif ein gwefannau yn cydymffurfio’n rhannol â Lefel AA oleiaf, er fod gan rai gwefannau broblemau sylweddol, yn cynnwys rhai Lefel A. Rydym yn anelu am gydymffurfiaeth safon AAA.
Newidiadau i’r Isadeiledd Technegol
Mae gwaith cyfuno technegol sylweddol bellach yn cynnig profiad cyson i ddefnyddwyr ar draws rhai o’n gwefannau mwyaf poblogaidd (ee Papurau Newydd Cymru, Cylchgronau Cymru ayb).
Mae pen a throed y rhan fwyaf o'n gwefannau nawr yn cydymffurfio i safon AA. Rydym yn parhau i wella ein brandio, er enghraifft yn gwella darllenadwyedd testun, a sicrhau diamwyster testun dolen (neu briodoledd teitl).
Newidiadau i’r cynnwys
Mae gwaith sylweddol wedi ei wneud i firenio cynnwys prif wefan y Llyfrgell (www.llyfrgell.cymru) a blog y Llyfrgell (blog.llyfrgell.cymru). Mae’r gwaith hwn yn cynnwys sicrhau fod testun alt i bob delwedd, sicrhau fod testun dolenni yn adlewyrchu’r ddolen, fformatio clir i’r cynnwys ayb)
Pa mor hygyrch yw ein gwefannau?
Mae rhannau o’n gwefannau sydd ddim yn hollol hygyrch, mae’r rhain yn cynnwys:
- Nid yw pob fideo yn cynnwys capsiynnau na thestun amgen
- Nid yw mwyafrif y ffeiliau sain yn cynnwys testun amgen
- Nid yw bob ffurflen yn hawdd i’w defnyddio gyda bysellfwrdd yn unig
- Yn aml, nid oes dangosydd gweledol ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd
- Nid oes modd cau rhai ffenestri ‘pop-up’ gyda bysellfwrdd yn unig
- Mae rhai delweddau heb destun alt neu’n cynnwys testun annefnyddiol
- Dylem fod yn defnyddio nodweddion teitl a rôl
Prif wefan:
Fe lansiwyd gwefan newydd yn Hydref 2022. Mae'r wefan wedi ei datblygu i safon WCAG 2.1 AAA.
Mae dwy broblem wedi eu hadnabod:
- Y dynodydd cyn y dewis newid iaith, a'r newid iaith ei hun
Nid yw'r HTML ar gyfer y rhain yn ddilys; bydd peiriannau darllen sgrin yn drysu gan eu bod o fewn tag rhestr, er nad ydynt yn eitemau o fewn rhestr - Rheolwr cwcîs
Nid oes modd defnyddio'r ffwythiant trwy allweddell yn unig
Camau nesaf
Gwaith ar wefannau penodol
Papurau Newydd Cymru, Cylchgronau, a Lleoedd: Rydym yn ymwybodol o broblemau sydd yn effeithio yn arbennig ar ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig a darllenwyr-sgrin ar y safleoedd hyn.
Yn ychwanegol at y themâu a drafodwyd yn ‘Pa mor hygyrch yw ein gwefannau?’, mae’r canlynol yn restr o broblemau sydd angen eu datrys fel blaenoriaeth:
- 1.1.1: Cynnwys heb fod yn destun (testun amgen)
Nid oes gan rhai delweddau destun alt. Golyga hyn nad ydym yn cwrdd â maen prawf WCAG 2.1 Lefel A
- 1.3.1: Gwybodaeth a Chysylltiad
Nid oes gan rai tablau grynodeb neu gapsiwn. Golyga hyn nad ydym yn cwrdd â maen prawf WCAG 2.1 Lefel A
- 2.4.1: Blociau osgoi*
Nid oes gan bob safle’r gallu i neidio yn syth i’r prif gynnwys, neu i’r arlwy. Golyga hyn nad ydym yn cwrdd â maen prawf WCAG 2.1 Lefel A
- 4.1.1: Ids ailadroddus*
Ar rhai o dudalennau’r Llyfrgell, defnyddir yr un ID i gyrraedd y prif arlwy ac arlwy’r fersiwn symudol (bychan). Golyga hyn nad ydym yn cwrdd â maen prawf WCAG 2.1 Lefel A
- 2.4.4: Pwrpas Dolenni
Mae’n bosib fod testun disgrifiadol rhai dolennni yn aneglur i beiriannau darllen sgrin ee. ‘Logo’r Llyfrgell’. Golyga hyn nad ydym yn cwrdd â maen prawf WCAG 2.1 Lefel AA
- 2.4.6: Teitlau a Labeli
Mae rhai tudalennau’n defnyddio amryw o lefelau teitlau a lefelau teitl sy’n neidio. Golyga hyn nad ydym yn cwrdd â maen prawf WCAG 2.1 Lefel AA
2.4.7: Gweledol ar ffocws
Wrth ffocysu ar elfen, nid yw bob amser yn cael eu uwcholeuo ac nid oes digon o wahaniaeth lliw bob amser wrth ffocysu. Golyga hyn nad ydym yn cwrdd â maen prawf WCAG 2.1 Lefel AA
Profi
Mi fydd cwmni allanol arbennigol yn ein cynorthwyo gyda’r gwaith trwy brofi cydymffurfiaeth y gwefannau’n derfynol gan ddefnyddio:
- Darllenwyr sgrin
- Adolygiadau gyda llaw ac awtomatig
- Profion gan arbenigwyr sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol
Hyfforddiant
Mi fyddwn ni’n uwchraddio ein canllawiau mewnol i sicrhau fod cynnwys electronig yn cwrdd â safonau Lefel AA.
Beth y gallwch chi ddisgwyl
Pan fydd ein gwaith yn orffenedig, mi fedrwch chi ddisgwyl gallu:
- Neidio’n syth at gynnwys
- Neidio’n hawdd i’r arlwy a’r Datganiad Hygyrchedd
- Symud trwy’r arlwy gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- Symud trwy’r safle gan ddefnyddio teitl neu adran
- Chwyddo’r cynnwys i oleia 200% heb effeithio ar lif y testun
- Defnyddio’n gwefannau mor llawn â phosib gan ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin
Pa gynnwys sydd wedi ei hepgor o’r newidiadau?
Mae’r rhestr hwn yn esbonio beth na fyddwn ni’n ei drwsio.
Baich anghymesur:
- Ffeiliau i’w lawrlwytho
Mae gan nifer o’n gwefannau ffeiliau i’w lawrlwytho, er enghraifft, ffeiliau PDF. Mae diweddaru dogfennau wedi dyddio yn faich anghymesur. Mi fydd unrhyw ddogfennau sy’n cael eu diweddaru yn cydymffurfio.
Eitemau y tu allan i sgôp y rheoliadau hygyrchedd:
- Mae cyfryngau sydd ddim yn fyw ac sy’n ddibynnol ar amser, er enghraifft fideos YouTube, a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 wedi eu hepgor
- Mae dogfennau PDF ac eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 wedi eu hepgor
- Nid oes rheidrwydd cynnig capsiynnau ar gyfer fideos byw na llif sain
- Mi fyddwn yn ceisio sicrhau fod unrhyw ddefnydd o fapiau mor hygyrch â phosib, serch hynny nid yw hyn yn ofynol yn y rheoliadau hygyrchedd
Cysylltu â ni neu wneud cwyn
Rydym yn croesawi adborth a sylwadau er mwyn ein helpu i wella hygyrchedd ein gwefannau.
Nid yw’r rhestr o broblemau yn y datganiad hwn yn gyflawn, felly mae croeso i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Ymholiadau os hoffech chi drafod unrhyw broblemau neu anghenion penodol.
Yn yr un modd, os hoffech chi wneud cwyn, mae croeso i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Ymholiadau.
Gweithrediad
Os nad ydych yn hapus gyda’r modd yr ymatebom i’ch cwyn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi ar Gydraddoldeb (EASS).
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymhwysiadau (applications) symudol) (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018.
Safleoedd Chwilio â Ffasedau
Safleoedd yr effeithir arnynt
Mae'r gwefannau a restrir isod yn dangos canlyniadau chwilio sy'n eich galluogi i fireinio'ch chwiliad gan ddefnyddio hidlwyr; y cyfeirir atynt yn aml fel “ffasedau”.
Mae gan y safleoedd hyn broblemau hysbys, yn amrywio o fethiannau Lefel A WCAG i hysbysiadau “Arfer Gorau” (ymgynghorol). Ein blaenoriaeth yw dod â'r safleoedd prysur hyn i safon WCAG AA. Ein nod tymor hwy yw rhagori ar feini prawf AA.
Chwilio “Tudalen gartref”
Safle | Cymdymffurfio â WCAG 2.1 | Materion difrifol |
---|---|---|
Papurau Newydd Cymru / Welsh Newspapers | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid oes cyferbyniad lliw digonol mewn rhai elfennau; Diffyg enwau/labeli ffurf hygyrch; Rolau ARIA anghywir/coll i ffurflenni |
Cylchgronau Cymru / Welsh Journals | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid oes cyferbyniad lliw digonol mewn rhai elfennau; Diffyg enwau/labeli ffurf hygyrch; Rolau ARIA anghywir/coll i ffurflenni |
Chwilio Archifau Cymru / Archives Wales Search | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Rhai cyfyngiadau allweddell yn unig; Sawl elfen statig yn cynnwys yr un elfen adnabod |
Mapiau Degwm Cymru / Welsh Tithe Maps | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid oes cyferbyniad lliw digonol mewn rhai elfennau; Diffyg enwau/labeli ffurf hygyrch; Rolau ARIA anghywir/coll i ffurflenni; Elfennau statig niferus gyda’r un priodoledd id |
Cymru 1914 | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid oes cyferbyniad lliw digonol mewn rhai elfennau; Diffyg enwau/labeli ffurf hygyrch; Rolau ARIA anghywir/coll i ffurflenni; Elfennau statig niferus gyda’r un priodoledd id |
Y Bywgraffiadur Cymreig / Dictionary of Welsh Biography | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid oes cyferbyniad lliw digonol mewn rhai elfennau; Diffyg enwau/labeli ffurf hygyrch |
Canlyniadau Chwilio
Safle | Cydymffurfio â WCAG 2.1 | Materion difrifol |
---|---|---|
Papurau Newydd Cymru / Welsh Newspapers | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid oes testun canfyddadwy ar rhai botymau; Nid oes testun canfyddadwy mewn rhai dolenni; Cyferbyniad lliw annigonol ar werthoedd hidlo; Diffyg enwau/labeli ffurf hygyrch; Dim mynediad bysellfwrdd i hidlwyr mireinio (ffasedau) |
Cylchgronau Cymru / Welsh Journals | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid oes testun canfyddadwy ar rhai botymau; Nid oes testun canfyddadwy mewn rhai dolenni; Cyferbyniad lliw annigonol ar werthoedd hidlo; Diffyg enwau/labeli ffurf hygyrch; Dim mynediad bysellfwrdd i hidlwyr mireinio (ffasedau) |
Chwilio Archifau Cymru / Archives Wales Search | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid yw ad-ddiwygiadau chwilio yn bosib trwy'r allweddell yn unig |
Mapiau Degwm Cymru / Welsh Tithe Maps | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid oes testun canfyddadwy ar rhai botymau; Nid oes testun canfyddadwy mewn rhai dolenni; Cyferbyniad lliw annigonol ar werthoedd hidlo; Diffyg enwau/labeli ffurf hygyrch; Dim mynediad bysellfwrdd i hidlwyr mireinio (ffasedau); Ar hyn o bryd mae mapiau yn anhygyrch * Nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud y mapiau hyn yn hygyrch ond ein cynllun tymor hir yw gwneud hynny |
Cymru 1914 | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Nid oes testun amgen mewn rhai delweddau; Nid oes testun canfyddadwy mewn rhai dolenni; Cyferbyniad lliw annigonol ar werthoedd hidlo; Diffyg enwau/labeli ffurf hygyrch |
Y Bywgraffiadur Cymreig / Dictionary of Welsh Biography | A (Rhannol); AA (Rhannol) | Rolau ARIA anghywir/coll i ffurflenni; Nid yw IDs yn unigryw (dewislen “Dewisiadau Arddangos”); Nid oes testun canfyddadwy ar rhai botymau; Nid oes gan eitem rhestr elfen rhestr riant, na rôl elfen (“rhestr”) |
Amserlen adfer
Gall yr amserlen hon newid; gall y dyddiadau newid.
Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Trydydd Parti
Mae'r Llyfrgell yn defnyddio rhai systemau trydydd parti i ddarparu ymarferoldeb a gwasanaethau. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ein gweithrediadau yn cydymffurfio â hygyrchedd. Fodd bynnag, ni allwn ar hyn o bryd warantu cydymffurfiad WCAG2.1 AA oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn ddibynnol ar y trydydd parti i sicrhau cydymffurfiad. Nid yw'n ofynnol i bob trydydd parti gyhoeddi eu datganiadau eu hunain.
Systemau Trydydd Parti
Mae'r rhestr isod yn crynhoi systemau trydydd parti.
Enw | Rôl | Dolen i'r Datganiad Hygyrchedd/Cynllun | Nodiadau |
---|---|---|---|
AtoM | Catalog Archif | Amherthnasol | Yn cydymffurfio'n fawr ond â materion cyferbyniad lliw. Mae'r gwaith yn parhau |
Rheoli Cwcis | Olrhain a Dadansoddeg (Cydymffurfiad GDPR) | Amherthnasol | Cydymffurfiad uchel, gwaith parhaus |
PayPal | Taliad Ar-lein | Cydymffurfiad uchel, gwaith parhaus | |
Primo | Catalog Adnoddau | Datganiad Hygyrchedd | Cydymffurfiaeth AA â mân faterion |
Lib Answers | Cefnogaeth | Cydymffurfiad uchel, gwaith parhaus | |
Smart Survey | Holiadur | Mae'r arolwg yn cydymffurfio | |
Shopify | Siop Ar-lein | Cydymffurfiad uchel, gwaith parhaus | |
TicketSource | Bwcio digwyddiad | Amherthnasol | Materion gyda llywio ar-dudalen a chyferbyniad lliw |
Tiki-Toki | Llinell amser Llafur100 | Amherthnasol | Problemau hygyrchedd sylweddol. Gwaith yn parhau i ganfod datrysiad amgen. Copi hygyrch o'r cynnwys ar gael drwy gais. |
Transpay | Taliadau Ar-lein | Amherthnasol | Dim dogfennaeth ar gael |
Syllwr | Arddangos adnoddau digidol | Rhai materion yn defnyddio bysellfwrdd, llywio ar dudalen, ac animeiddiadau symud | |
Wordpress | Blogio | Cydymffurfiaeth AA â mân faterion |
Cyfryngau Cymdeithasol a YouTube
Nid ydym yn gyfrifol am ymarferoldeb gan na wnaethom dalu na datblygu hyn ein hunain. Fodd bynnag, mae gan Facebook, Twitter, a YouTube i gyd raglenni cydymffurfio hygyrchedd parhaus.
Gwefannau wedi'u Archifo
Mae gwefannau nad ydynt yn cael eu diweddaru ac nad oes eu hangen ar gyfer gwasanaethau byw wedi'u heithrio o reoliadau hygyrchedd.
Mapiau
Ar hyn o bryd mae mapiau wedi'u heithrio o reoliadau oni bai eu bod yn cyfleu'r wybodaeth ofynnol, ac os felly gallwn ddarparu'r wybodaeth hon mewn fformat hygyrch ar gais.
Sut i gysylltu â ni
Os oes angen fersiwn hygyrch o gynnwys arnoch, os oes gennych unrhyw awgrym neu gwynion, mae croeso i chi gysylltu â'n Gwasanaeth Ymholiadau.
Diweddariad diwethaf
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 21 Tachwedd 2022.