Mae holl weithdai Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael eu cynnig yn rhad ac am ddim.

Cyn ymweld
Gweithgaredd i'w wneud yn yr ysgol cyn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y tasgau hyn yn gwella dealltwriaeth dysgwyr o rôl, gwaith a math o gasgliadau y Llyfrgell.

Cynllunio eich ymweliad
Cyn i chi ymweld â'r Llyfrgell bydd angen i chi gysylltu â ni i drafod manylion yr ymweliad. Gallwn baratoi gweithdy ar unrhyw bwnc dan haul cyn belled â bod adnoddau pwrpasol ar gael yn y Llyfrgell.

Bagloriaeth Cymru
Gall Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyflwyno'r gweithdai a gweithgareddau i gefnogi Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.