Symud i'r prif gynnwys

Ymchwil yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae cefnogi ymchwil yn rhan o genhadaedd graidd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae’r gwaith o ‘rymuso ymchwil a dysg’ yn amcan strategol a llesiant yn Nghynllun Strategol 2021-26 - Llyfrgell i Gymru a’r Byd.

Mae dysgu ac ymchwil felly’n chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gyflawni gweledigaeth y Llyfrgell sef “i wneud gwahaniaeth er gwell i bawb yng Nghymru”.

Ymchwil i Bawb

Rydym ni’n credu y gall pawb ymgysylltu a gwaith ymchwil ac mae’n bosibl i unrhywun fwynhau mynediad rhad ac am ddim i gasgliad ymchwil mwyaf Cymru arlein a thrwy ein safleodd yn Aberystwyth, Hwlffordd a Chaerdydd.  Mae ein gwasanaethau yn grymuso unigolion, sefydliadau cymunedau a grwpiau i:

  • ddarganfod hanes lleol a hanes teulu
  • ymgysylltu â gweithgareddau creadigol
  • gefnogi eu busnes
  • i gynhyrchu allbynion ymchwil o’r radd flaenaf
  • i gyflawni prosiectau cymunedol, cenedlaethoal a rhyngwladol

Ymchwil Academaidd Cydweithrediadol

Mae gan y Llyfrgell hanes hir o gydweithio llwydiannus gyda sefydliadau academaidd ac ymchwil.  Mae’r cydweithio yma’n aml yn ffurf prosiectau ymchwil sydd wedi eu cyllido neu oruchwylio ar y cyd o fyfyrwyr olraddedig.

Bwrwch olwg ar ein cyfleon i ymgymryd â phrosiectau doethuriaeth cydweithredol eleni 

Cysylltwch â ni os oes gennych chi syniad am brosiect (dylai rhain gymryd i ystyriaeth ein blaenoriaethau ymchwil isod).

Blaenoriaethau Ymchwil

  1. Dehongli ac ail-ddehongli casgliadau – Cydweithio a chydweithredu gyda ymchwiliwyr ac arbenigwyr sy’n gallu ymgysylltu yn eang gyda’r casgliadau er mwyn dehongli ac ail-ddehongli casgliadau. Mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn cydweithio neu brosiectau sy’n gysylltiedig a chydraddoldeb ag amrywedd.
  2. Ymchwilio defnydd, traweffaith a datblygiad casgliadau digidol (yn ogystal â’r defnydd o’r digidol mewn gofodau ffisegol); datblygiad casgliadau cenedlaethol a chymunedol a chymhwysiad technolegau newydd i’r gwaith o ddadansoddi a deal casgliadau mewn ffurf digidol a ffisegol.
  3. Methodolegau ac ymarfer proffesiynol mewn perthynas â llyfrgellyddiaeth, archifau a llawysgrifau, mapiau, cadwraeth celf, ffotograffau, sain a deunydd clyweledol, gan gynnwys cadwraeth ffisegol a chadwraeth ddigidol.