Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Yn un o sefydliadau eiconig Cymru, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn leoliad perffaith i’ch digwyddiad.
Wedi ei lleoli uwchlaw bae hyfryd Ceredigion yn Aberystwyth, mae gennym olygfeydd godidog sy’n creu argraff a chyfleusterau proffesiynnol ar gyfer eich anghenion.
Gydag amrywiaeth o ystafelloedd urddasol, a gofodau hyblyg, mae’r Llyfrgell yn leoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, o gyfarfodydd bychan i gynadleddau. Gallwn hefyd gynnig amrywiaeth o wasanaethau i hwyluso’ch digwyddiad.
Mae adeilad ysblennydd y Llyfrgell yn edrych i lawr dros Fae Ceredigion a thref Aberystwyth. Mae'n leoliad bythgofiadwy i gynnal un o ddigwyddiadau pwysicaf eich bywyd.
Gyda’i mynedfa urddasol, coridorau o garpedi coch moethus ac Ystafell y Cyngor a’i golygfa dros y môr, mae’r Llyfrgell yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer eich priodas.
Mae croeso i chi gysylltu gyda’n Trefnydd Priodasau i drafod eich anghenion personol chi ar gyfer eich diwrnod.