Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais am docyn darllen. Mae tocynnau darllen yn ddilys am 3 mlynedd, ac yn galluogi darllenwyr i gael mynediad i'n holl gasgliadau.
I gael tocyn darllen llawn rhaid dangos dau brawf adnabod, gydag un ohonynt yn dangos eich cyfeiriad cyfredol.
Mae ymwelwyr o dan 16 oed yn gallu gwneud cais i ymweld â rhai ardaloedd o'n Hystafell Ddarllen o dan amodau penodol.
Gallwch gofrestru arlein cyn eich ymweliad fel cam cyntaf i ddod yn ddarllenydd. Bydd hyn yn hwyluso'r broses pan fyddwch yn ymweld â ni yn bersonol.
Byddwch yn derbyn eich manylion cofrestru yn syth, a gallwch eu defnyddio i archebu deunydd o'n Catalog cyn eich ymweliad.
Mae aelodaeth arlein hefyd yn gallu caniatau mynediad i Danysgrifiadau'r Llyfrgell. Am fwy o wybodaeth gweler y dudalen Beth gallaf ei weld?
Gallwch adnewyddu eich tocyn darllen a chadw'r rhif tocyn presennol drwy ymweld â'r Llyfrgell.