Symud i'r prif gynnwys

Pam ydych chi angen fy ngwybodaeth bersonol?

I’n galluogi ni i ddarparu mynediad cofnodedig i’r casgliadau a gwasanaethau sydd ar gael i chi fel deilydd cyfrif LlGC.

Ar ba sail fyddwch chi’n prosesu’r data?

Fel rhan o’n Tasg Gyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol fel y nodir yn ein Siarter a dogfennau llywodraethol eraill perthnasol.

A fydd unrhyw un arall yn derbyn copi o’r data?

Bydd y data yn cael ei storio’n ddiogel gan y Llyfrgell a chan ddarparwr trydydd parti, ExLibris, sy’n gweinyddu ein system Llyfrgell.  Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, MailChimp, i gyfathrebu â chi yn electronig. Bydd y cyfathrebu hwn wedi  ei gyfyngu i negeseuon ynglŷn â’ch cyfrif a’r gwasanaethau a ddarperir. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch agor e-bost a chliciadau, gan ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant i'n helpu i fonitro a gwella ein cyfathrebu.  Gellir cael manylion pellach yn Natganiad Preifatrwydd MailChimp.

Am ba hyd y byddwch yn cadw'r data personol?

Tan derfyn cyfnod y cyfrif ac am 6 mis pellach y tu hwnt i hynny.

Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru?

Ni fyddwch yn gallu cael mynediad i gasgliadau’r Llyfrgell sy’n gofyn am gyfrif Llyfrgell dilys.

Pwy fydd yn gyfrifol am reoli'r data rwy'n ei ddarparu?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ble mae modd cael hyd i fwy o wybodaeth?

Ceir gwybodaeth bellach am ein polisïau gwarchod data ar ein tudalen Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data.