Symud i'r prif gynnwys

Gwarchod ein gorffennol wrth edrych tuag at y dyfodol  

 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig (525775) ac fe’i sefydlwyd dros ganrif yn ôl gan roddion a chymynroddion pobl Cymru a gredai ym mhwysigrwydd diogelu ein treftadaeth. Fe fu’r bobl hyn yn allweddol i greu un o brif sefydliadau diwylliannol y byd gan ddarparu cartref diogel i nifer fawr o drysorau Cymru. Wrth ddewis ein cefnogi, fe fyddwch chi’n parhau’r traddodiad hwnnw.

Fel elusen mae’r Llyfrgell yn dibynnu ar ystod eang o ffynonellau codi arian i gefnogi a datblygu ein gwasanaethau ac i wireddu ein hymrwymiad i gasglu, cadw ac addysgu.

Diolch am ein cefnogi. 

 

Cysylltwch â ni:

gofyn@llgc.org.uk



Dogfennaeth Perthnasol