Statws Cyfreithiol
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gorff a ymgorfforwyd gan Siartr Frenhinol, ac mae hefyd yn elusen (rhif cofrestredig: 525775) ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC).
Datganiad Preifatrwydd Codi Arian
Y Llyfrgell Genedlaethol - Datganiad Preifatrwydd
Fel elusen gofrestredig mae'n ofynnol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (Rhif Elusen Gofrestredig 525775) gynhyrchu cyfran o'i hincwm o weithgareddau masnachol a rhoddion dyngarol. O’r herwydd rydym yn cynnal ymchwil codi arian ac yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn deall cefndir pobl a all ein cefnogi neu sydd wedi ein cefnogi, ac i’n helpu i wneud ceisiadau priodol i gefnogwyr a all fod yn dymuno cyfrannu i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Er mwyn i ni allu codi arian yn effeithiol ac yn effeithlon (er enghraifft, trwy ddadansoddi a segmentu ein cefnogwyr yn ôl lleoliad, demograffeg, rhoddion blaenorol neu weithgareddau blaenorol ac i nodi eich diddordebau a'ch cymhellion a lefel y gefnogaeth y gallech o bosibl ei rhoi i ni), rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol benodol. Yn ein cronfa ddata codi arian rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â hunaniaeth ein darpar roddwyr neu roddwyr gwirioneddol, manylion cyswllt (gan gynnwys cyfeiriad post, rhifau cartref a ffôn symudol; cyfeiriad e-bost) hanes teulu, oedran, dyddiad geni, rhyw, hanes cyflogaeth, hanes addysgol, gweithgareddau cymdeithasol, diddordebau, dewisiadau marchnata (er enghraifft, lle rydych wedi dewis derbyn ein cylchlythyrau, hanes ymweliad, gohebu, gweithgareddau hanes ac ymddygiad (fel pan fynychoch chi â’n hadeiladau, neu mewn perthynas â gweithgareddau ariannol, neu mewn perthynas â gweithgareddau dyngarol). ein rhoddwyr gwirioneddol rydym hefyd yn prosesu manylion banc a Chymorth Rhodd er mwyn rheoli rhoddion.
Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu’n anuniongyrchol drwy wefannau codi arian trydydd parti – mae hyn yn cynnwys y wybodaeth rydych wedi’i rhannu â nhw (er enghraifft gwefannau prosesu rhoddion). Mae'n bosibl y bydd y gwefannau hyn yn trosglwyddo'ch data i ni lle rydych wedi nodi eich bod am ein cefnogi.
Lle mae gennym ddiddordeb cyfreithlon mewn gwneud hynny, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'n pwrpas. O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwil parth cyhoeddus er mwyn nodi pobl y credwn y gallent ein cefnogi ar sail ffactorau megis cyfraniadau at sefydliadau tebyg, hanes trafodion a demograffeg. Wrth wneud hynny, efallai y byddwn yn defnyddio cwmnïau ymchwil a mewnwelediad trydydd parti i roi gwybodaeth gyffredinol i ni o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus am ein rhoddwyr neu ddarpar roddwyr.
Lle rydych wedi rhoi eich caniatâd, efallai y byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol atoch (gan gynnwys marchnata e-bost a chyfathrebu codi arian), neu gynnal ymgyrchoedd marchnata, cystadlaethau, rafflau a hyrwyddiadau.
Cedwir eich gwybodaeth bersonol am gyfnod rhesymol. Efallai y byddwn weithiau’n cysylltu â thrydydd parti i ddarparu gwasanaeth i ni (er enghraifft, tŷ postio a gontractiwyd gennym i anfon cylchlythyr y Llyfrgell atoch) ond ni fyddwn byth yn caniatáu i unrhyw drydydd parti ddefnyddio’ch gwybodaeth mewn unrhyw ffordd heblaw’r hyn a gontractiwyd gennym ni. Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw sefydliad arall.
Byddwn bob amser yn ymdrechu i gyfathrebu â chi yn briodol. Byddwn yn glir ynghylch sut y gallwch ddisgwyl clywed gennym, a byddwn yn cyfathrebu â chi mewn ffyrdd y credwn y byddwch yn eu gwerthfawrogi ac yn eu rhagweld. Rydym yn dal ein hunain i’r safonau uchaf, er enghraifft rydym yn dilyn canllawiau’r Sefydliad Siartredig Codi Arian ar ymateb i anghenion pobl mewn amgylchiadau bregus.
Rydym wedi dewis cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian a chadw at eu “Cod Ymarfer Codi Arian”. Rydym yn sicrhau bod ein holl godwyr arian a thrydydd partïon yn gwneud hynny. Gellir defnyddio gwybodaeth am ein rhoddwyr i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Codi Arian y Rheoleiddiwr Codi Arian, sy’n nodi bod yn rhaid i ni gymryd camau i asesu a rheoli risgiau i’n gwaith a’n henw da o ran lefelau penodol o roddion. Ceir rhagor o fanylion yn ‘Fundraising Regulator’.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau, neu os hoffech stopio neu newid y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â chi ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni yn:
rhoddion@llgc.org.uk
01970-632511
Ymholiadau ynglyn â'ch cyfraniadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
Swyddfa Codi Arian,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3BU
Ffôn: (01970) 632 511
E-bost: