Symud i'r prif gynnwys

 

 

Diolch am ystyried Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel buddiolwr yn eich ewyllys. Mae pob rhodd a ymddiriedir i’r Llyfrgell yn cael ei werthfawrogi, a boed fawr neu fach, gall wneud gwahaniaeth sylweddol a’n cynorthwyo i gadw hanes Cymru yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 


Ffyrdd o adael rhodd yn eich ewyllys

Mae nifer o ffyrdd gwahanol o adael rhodd i’r Llyfrgell yn eich Ewyllys, ac mae’n statws fel elusen gofrestredig yn sicrhau bod unrhyw rodd yn rhydd o daliad treth etifeddu.  

Y rhoddion mwyaf arferol yw:  

  • Cymynrodd ariannol – rhodd o swm penodol o arian.  

  • Cymynrodd weddilliol – rhodd o ran neu’r cyfan o weddill eich ystâd ar ôl talu taliadau a chymynroddion eraill.  

  • Cymynrodd benodol – mae’r Llyfrgell yn derbyn rhodd o eitemau i’n casgliadau.

Sut i adael rhodd yn eich ewyllys

Argymhellir eich bod yn ymgynghori gyda chyfreithiwr i sicrhau bod eich Ewyllys yn gyfreithiol, yn adlewyrchu’n llawn eich dyheadau a’i bod yn gyfredol.  

Os penderfynwch adael rhodd i’r Llyfrgell rydym yn argymell defnyddio’r canlynol fel geiriad addas yn eich Ewyllys er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn eich rhodd:  

Rwy’n cymynroddi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU, rhif elusen gofrestredig 525775, [y swm o / % o fy ystad weddilliol / eitem benodol] i’w ddefnyddio yn ól doethineb y Llyfrgell Genedlaethol. Rwyf yn datgan ymhellach bod derbynneb oddi wrth y Trysorydd neu swyddog priodol arall yn rhyddhad llawn a digonol o’r rhodd i fy ysgutorion. 

Cysylltwch â ni i drafod eich cefnogaeth

Er mwyn ein helpu i gwrdd â'ch dymuniadau, byddem yn croesawu'r cyfle i drafod eich rhodd bosibl gyda chi neu'ch cynghorydd.

Os ydych yn ystyried gadael eitemau penodol i’r Llyfrgell byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i drafod eich rhodd ymlaen llaw, cyn derbyn eich cymynrodd, er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda’n polisi casgliadau.

Cofrestru eich dymuniad i adael rhodd yn eich ewyllys

Mae pob rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwneud gwahaniaeth. Byddem yn gwerthfawrogi pe byddech yn hapus i adael i ni wybod eich dymuniad gan y byddai o gymorth wrth gynllunio at y dyfodol ac i ddiolch i chi am eich rhodd.


Dogfennau Perthnasol