Symud i'r prif gynnwys

Cyfrifiad 1921

Ceir mynediad am ddim i Gyfrifiad 1921 o fewn adeilad y Llyfrgell drwy Findmypast.

Hwn yw'r cyfrifad diweddaraf i'w ryddhau a'r mwyaf manwl, gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am addysg ac enwau cyflogwyr am y tro cyntaf.

Ni fydd y cyfrifiad nesaf, sef cyfrifiad 1951, ar gael tan 2052 oherwydd collwyd cyfrifiad 1931 mewn tân a ni chymerwyd cyfrifiad yn 1941 o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd. 

Delwedd: Cyfrifiad 1921 © Crown Copyright The National Archives trwy garedigrwydd Findmypast

Mae cyfrifiad wedi ei gymryd yng Nghymru a Lloegr bob deng mlynedd ers 1801 ag eithrio 1941. Ni chasglwyd manylion personol yn y cyfrifiadau cynnar, dim ond gwybodaeth ystadegol. 1841 oedd y cyfrifiad cyntaf i gynnwys manylion fyddai o ddefnydd i'r achyddwr: enw, oed, cyfeiriad, galwedigaeth ac mewn cyfrifiadau diweddarach man geni ac anabledd. O 1891 gofynnwyd pa iaith siaradwyd - Cymraeg, Saesneg neu'r ddwy.

Copiwyd ffurflenni gwreiddiol bob teulu o 1841 i 1901 gan y cyfrifwyr i lyfrau cyfrifwr, a dyma'r cofnodion cyfrifiad a welir heddiw. Dinistriwyd y ffurflenni gwreiddiol. Ond roedd cyfrifiad 1911 ychydig yn wahanol gan mai dyma'r tro cyntaf i'r ffurflenni gwreiddiol gael eu diogelu a'u rhyddhau.

1921 yw’r cyfrifiad mwyaf manwl hyd yma a’r un diwethaf i’w ryddhau tan 2052, oherwydd collwyd cyfrifiad 1931 mewn tân ac ni chymerwyd cyfrifiad yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.

Mynediad

  • 1841-1881 microffilm
  • 1881 mynegai ar microffis
  • 1891-1901 microffis
  • 1841-1911 Mynediad yn rhad ac am ddim arlein drwy Findmypast ac Ancestry Library o fewn adeilad y Llyfrgell.
  • 1921 mynediad yn rhad ac am ddim arlein drwy Findmypast o fewn adeilad y Llyfrgell.

Ceir nifer o adysgrifau a mynegeion wedi eu creu gan gymdeithasau hanes teuluoedd sirol, dylid chwilio'r Catalog am argaeledd