Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae’r wefan yn cynnig mynediad cyflym a hawdd at dreftadaeth gyfoethog Cymru, gyda chyngor ymarferol ac offer arlein am ddim.
Gallwch gyfrannu'ch cynnwys eich hun i wella'r amrywiaeth ar y safle ac i sicrhau y ceir hanes eich ardal chi. Uwchlwythwch eich ffotograffau, recordiadau sain, dogfennau a fideos.
Mae’r wefan Casgliad y Werin Cymru, sydd wedi’i datblygu a’i chynnal gan bartneriaeth ffederal*, yn dod â chasgliadau digidol y prif sefydliadau treftadaeth yng Nghymru at ei gilydd, ynghyd â chynnwys o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd llai, ac mae'n le gallwch rannu'ch stori am Gymru. Ymunwch er mwyn ychwanegu gwybodaeth leol at rai o’r miloedd o eitemau sydd wedi’u uwchlwytho yn barod, neu i ychwanegu eitemau o’ch cymuned, clwb neu deulu at straeon a hanesion Cymru.
Allwch chi helpu i gyfoethogi hanes diwylliannol Cymru? Dechreuwch rannu eich stori...
Am ragor o wybodaeth am ein gwaith Ymgysylltu Cymunedol ewch i