Symud i'r prif gynnwys

O ffilmio eitemau o’r casgliadau ar gyfer cyfresi i gyfraniadau gan arbenigwyr y Llyfrgell i’ch prosiectau, mae’r Llyfrgell yn awyddus i gydweithio gyda chi er mwyn rhannu stori Cymru â’r byd.

Yn yr un modd, gellir cysylltu â’r Llyfrgell i wneud cais am drwydded ar gyfer defnyddio delweddau o’r casgliad yn eich cyhoeddiadau.


Ffilmio

Mae adeilad y Llyfrgell ar gael fel lleoliad ar gyfer ffilmio’r casgliadau neu ddarnau i'r camera. Yn un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru gyda’i golygfa bendigedig dros Fae Ceredigion a thref Aberystwyth, mae’n leoliad ffilmio perffaith.  

Trwyddedu

Mae cyfoeth casgliadau’r Llyfrgell yn cynnig ei hun i gyhoeddiadau a’r cyfryngau digidol fel ei gilydd, ac rydym yn awyddus iawn i weld ein casgliadau’n cael eu defnyddio. Mae’n ffordd arbennig i rannu’r trysorau sydd gennym â’r byd, ac i rannu stori Cymru.

Cyhoeddiadau

Porwch trwy rai o gyhoeddiadau'r Llyfrgell. O Gylchgrawn LlGC, sy'n cyhoeddi erthyglau am y casgliadau, i lyfrau.