Symud i'r prif gynnwys

Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â phrif ddarlledwyr Cymru a Chanolfan y Mileniwm Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dod ag archifau BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C ynghyd i roi mynediad i dros ganrif o deledu a radio.

Mae’r archif o tua 550,000 o ddarllediadau yn cynnwys:

  • rhaglenni o ddyddiau cynnar darlledu y BBC yng Nghymru yn ystod y 1920au,
  • y darllediad masnachol cyntaf gan TWW, sefydlu Teledu Harlech, oes HTV Cymru ac ITV Cymru Wales, a
  • cyfnod lansio S4C, y sianel deledu Gymraeg gyntaf.

Ble allaf gael mynediad i Archif Ddarlledu Cymru?

Mae mynediad llawn i Archif Ddarlledu Cymru ar gael yn adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru fel darllenydd, gallwch wylio neu wrando yn y Llyfrgell yn Aberystwyth neu yn un o'n Corneli Clip ledled Cymru.

Mae'r adran Gwylio a Gwrando o'n gwefan yn cynnwys dros 13,000 o ddarllediadau sydd ar gael ar-lein o unrhywle, a gallwch chwilio'r casgliad cyfan cyn ymweld â'r Llyfrgell yn Aberystwyth neu eich Cornel Clip agosaf.


Beth fyddaf yn gallu ei wneud gyda’r Archif Ddarlledu?

Yn ogystal â gwylio a gwrando ar nifer fawr o ddeunydd teledu a radio yn y Llyfrgell yn Aberystwyth a’r Corneli Clip ledled Cymru, mae cyfleon i gymryd rhan mewn rhaglen eang o weithgareddau. Mae rhain yn cynnwys gweithgareddau yn seiliedig ar hanes lleol, hel atgofion, defnydd creadigol, addysg, dysgu’r iaith Gymraeg a gwella gwybodaeth am yr Archif.

Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb gwybod beth sydd gan y rhaglen i'w gynnig.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Archif Ddarlledu Cymru, cysylltwch â’n Gwasanaeth Ymholiadau os gwelwch yn dda.