Dewch i chwarae!
Os ydych chi’n chwilio am rywle i ymweld gyda’ch teulu, does dim angen edrych ymhellach na Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Mae Ardal Chwarae yn y Llyfrgell ar gyfer plant 3 i 7 oed sydd yn llawn gweithgareddau chwarae sy'n ysgogi synhwyrau ac yn ennyn chwilfrydedd. Byddwch chi yn cael y cyfle i:
- adeiladu gyda blociau
- lliwio a darlunio
- siopa, gwisgo i fyny a chwarae rôl
- sefydlu gwersyll a darllen o dan y sêr
- a mynd ar daith i lan y môr neu i'r goedwig
Gallwch ddod i ymweld â’r Ardal Chwarae fel teulu, fel grŵp o deuluoedd neu fel Grŵp Meithrin neu Gylch Ti a Fi, ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim. Does dim angen archebu lle ymlaen llaw – dewch i’r Llyfrgell Genedlaethol a dilyn yr arwyddion i’r Ardal Chwarae neu holwch yn y dderbynfa. Mae’r Llyfrgell yn cynnig mynediad hwylus ar gyfer pramiau a chyfleusterau newid cewyn.