Gwasanaeth Ymholiadau
Ni fydd Gwasanaeth Ymholiadau cyflawn am gyfnod amhenodol oherwydd ansicrwydd yn sgil COVID-19. Byddwn yn ymdrechu i ateb pob ymholiad sy'n ymarferol bosibl ac yn gobeithio cynnig gwasanaeth llawn eto cyn bo hir.
Mae sawl ffordd o gysylltu â'r gwasanaeth:
- Ffôn: +44 (0)1970 632 933 (9.30-17.00)
- Ffacs: +44 (0)1970 632 551
- Ysgrifennu at: Y Gwasanaeth Ymholiadau, Gwasanaethau i Ddarllenwyr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n cynnig gwasanaeth ateb ymholiadau rhad ac am ddim. Mae croeso i ymholwyr gysylltu â ni gyda'u cwestiynau. Anelwn at ateb 90% o'r holl ymholiadau o fewn 10 diwrnod gwaith, ond gall ymholiadau cymhleth, neu rai sy'n ymholiadau Rhyddid Gwybodaeth gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith. Ceir mwy o wybodaeth yn ein Polisi Ymholiadau.
Gwasanaeth sgwrs sydyn
Bydd y gwasanaeth ar gael bob dydd Llun i ddydd Gwener 10.00-12.00 a 14.00-16.00
Sut i ddefnyddio'r catalogau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sut i ddefnyddio Catalo Llawysgrifau ac Archifau LLGC, mae'n bosib cael hyd i'r ateb ar dudalen Cymorth Catalog neu tudalen Cymorth Archifau a Llawysgrifau LLGC
Anfon Ymholiadau
Wrth anfon ymholiad atom, nodwch os gwelwch yn dda
- eich enw a'ch manylion cyswllt llawn
- yr holl wybodaeth berthnasol sydd eisoes wedi ei chasglu (e.e. pa waith ymchwil sydd eisoes wedi ei gyflawni e.e. cysylltu gyda'ch llyfrgell gyhoeddus neu archifdy lleol
- enwau llawn, dyddiadau ac ardaloedd os yn cyflwyno ymholiad achyddol neu ymholiad hanes lleol
Math o ymholiadau a atebir
Gallwn ateb ymholiadau sy'n seiliedig ar gasgliadau amrywiol y Llyfrgell, gan gynnwys ateb ymholiadau achyddol sylfaenol os darperir digon o fanylion. Byddwn yn barod i:
- gadarnhau manylion unigolion yn y Cyfrifiad, neu chwilio cyfnod rhesymol am unigolion neu deuluoedd penodol
- gadarnhau manylion unigol mewn cofrestr plwyf neu gofrestr anghydffurfiol, neu chwilio cyfnod rhesymol am gofnod penodol
- gadarnhau manylion o fynegai'r Gofrestrfa Gyffredinol, neu chwilio cyfnod rhesymol am gofnod penodol
- ddod o hyd i rai manylion am hanes eich ty drwy chwilio mapiau degwm neu fapiau ystâd
- gadarnhau awduron, teitlau, mannau cyhoeddi neu ddyddiadau llyfrau ac erthyglau
- ddod o hyd i erthyglau papurau newydd, os darperir manylion am ddyddiadau chwilio rhesymol
- chwilio am ffotograffau neu ddarluniau penodol o unigolion neu leoedd
- ddarparu manylion am gynnwys llawysgrifau ac archifau penodol
- ddarparu copïau o eitemau o gasgliadau'r Llyfrgell
Nodwch fod mwyafrif o'n catalogau a'n cronfeydd data bellach ar gael ar ein gwefan. Mae nifer o eitemau o'n casgliadau hefyd wedi eu digido.
Archebu copïau o bell
Os nad ydych yn medru ymweld â'r Llyfrgell ac angen copïau, mae modd i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau gyda'r
- manylion llawn o'r hyn sydd ei angen arnoch
Wedi i ni gadarnhau ein daliadau ac ystyried unrhyw oblygiadau hawlfraint a chadwraethol, anfonir ffurflen gais atoch i'w llofnodi, ei dyddio, a'i dychwelyd at y Gwasanaeth Ymholiadau gyda'r tâl. Gellir dychwelyd y ffurflen atom yn electronig, drwy ffacs neu drwy'r post. Gallwch dalu am eich copïau â siec, yn uniongyrchol i gyfrif banc y Llyfrgell, neu â cherdyn credyd. Os am dalu â cherdyn, argraffwch y 'ffurflen talu â cherdyn credyd' o'r wefan, ei chwblhau, gan nodi rhif eich archeb arni, a'i dychwelyd gyda'r ffurflen gais. Cofiwch gysylltu gyda'r Gwasanaeth Ymholiadau os am gyngor neu gymorth.
Ni all y gwasanaeth:
- ddarparu atebion gwybodaeth gyffredinol y gellir ei chael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus neu ar y we fyd eang
- dderbyn ymholiadau sy'n amlwg yn gwestiynau cwis neu groeseiriau
- ymgymryd ag ymchwil achyddol manwl: mewn achosion felly, rydym yn eich cynghori i gomisiynu ymchwilydd annibynnol. Ceir rhestr o ymchwilwyr, ynghyd â chyngor pellach ar ein tudalen 'Hanes Teulu'
- ddarparu tystysgrifau geni, priodi a marw. Rhaid cysylltu naill ai â'r Swyddfa Gofrestru leol, neu'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol am gopïau o'r rhain
Gwarchod Data
I weld sut yr ydym yn delio â'ch data personol gweler y Datganiad Preifatrwydd.