Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn casglu gwybodaeth bersonol at ddibenion sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â gwasanaeth, swyddogaeth neu weithgaredd gan y Llyfrgell. Mae'r Llyfrgell yn cadw'r wybodaeth hon yn ddiogel yn unol â Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data 2018. Mae'r Llyfrgell yn casglu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion:
Cedwir eich gwybodaeth bersonol am gyfnod rhesymol. Efallai y byddwn ambell waith yn cysylltu â thrydydd parti i gyflenwi gwasanaeth i ni (er enghraifft, cwmni postio o dan gytundeb i anfon cylchlythyr y Llyfrgell atoch) ond ni fyddwn yn caniatáu i drydydd parti ddefnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd heblaw'r hyn a gynhwysir yn ein cytundeb ni. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion i unrhyw gorff arall.
O dan Reoliad Cyffredinol Gwarchod Data 2018 mae gennych hawl i dderbyn copi o'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. I weithredu'r hawl hon dylech wneud cais ysgrifenedig ar ffurflen Cais Mynediad Testunol y Llyfrgell a'i hanfon at Swyddog Gwarchod Data'r Llyfrgell, sef Rhodri Llwyd Morgan. Ni chodir tâl am gais mynediad testunol. Byddwn yn ceisio ymateb i unrhyw gais o fewn mis o dderbyn yr holl wybodaeth gennych. Mae gennych hefyd yr hawl i gywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch, a'r hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth os ydych yn credu nad oes gennym yr hawl i brosesu'r wybodaeth yna.
Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am Bolisi Gwarchod Data'r Llyfrgell, cysylltwch â'r Swyddog Gwarchod Data, Rhodri Llwyd Morgan (ffôn: 01970 632 952, e-bost dpo@llgc.org.uk).
I weld cofnod cyfredol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn y Gofrestr Gwarchod Data (rhif cofrestr Z7670787).