Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r Catalog Archifau a Llawysgrifau ar gael ar hyn o bryd y tu hwnt i adeilad y Llyfrgell. Yr ydym yn gweithio i adfer mynediad. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Dathlodd y Llyfrgell Ŵyl Ganol Hydref Tsieineaidd gyda digwyddiad mawr yn mis Medi. Daeth 5 ysgol a 120 o ddysgywr Ysgol Felinfach, Ysgol Dihewyd, Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Myfenydd ac Ysgol Comins Coch, i brofi gweithgareddau a dysgu mwy am hanes un o ddigwyddiadau pwysicaf yn y calendr Tsieineaidd. Cyd-weithiodd Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru gyda'r Llyfrgell i:
Roedd Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru eisiau dysgu mwy am adrodd straeon yn ystod eu gweithdai haf i deuluoedd. Daeth tua 50 o unigolion o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru ar fws o Fangor i’r Llyfrgell. Roedd yr ymweliad yn cynnwys:
Canolbwyntiodd y prosiect ar brofiadau ffoaduriaid a’u hymdeimlad o berthyn yn Ystradgynlais a’r cyffiniau. Roedd Ystradgynlais yn gartref i’r artist ffoaduriaid Josef Herman am dros ddegawd. Buodd y Llyfrgell yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r Neuadd Les yn Ystradgynlais. Mae'r Neudd Les yn gweithio'n agos gyda grŵp o ffoaduriaid o Syria. Roedd y prosiect yn cynnwys:
Nod y prosiect oedd dysgu a deall mwy am grefydd yn eu hardal o Gaerdydd. Cysylltodd Addewid Caerdydd â’r Llyfrgell i holi os byddai modd i ni gefnogi prosiect gyda'n archifau. Roedd y prosiect yn cynnwys:
Mae dealltwriaeth o 'gynefin' yn elfen bwysig o'r Cwricwlwm i Gymru. Datblygodd yr ysgolion bartneriaeth i archwilio eu cynefin ac i ddysgu mwy am ran arall o Gymru. Mae Ysgol Gynradd Whitestone wedi teithio i Aberystwyth i ymweld ag Ysgol Gynradd Phlascrug a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac aeth Plascrug at Whitestone yn nhymor yr haf. Roedd y prosiect yn cynnwys:
Roedd Ysgol Hamadryad eisiau dysgu mwy am brofiadau glowyr Du o Gymru a chysylltiad Paul Robeson a’r glowyr. Cafodd y dysgwyr gyfleoedd i:
Bwriad y prosiect oedd creu podlediad am hunaniaeth, iaith a diwylliant gan ddefnyddio eitemau o gasgliad y Llyfrgell i sbarduno trafodaeth. Roedd y sesiynau podlediad yn cynnwys:
Mae dysgwyr Ysgol Gynradd Sgeti wedi ymchwilio ‘Brwydr Abertawe’, 1969, apartheid yn Ne Affrica, Nelson Mandela a’r symudiad Gwrth-Apartheid yng Nghymru. Roedd ymchwilio ddigwyddiad lleol wedi creu ymwybyddiaeth o achos rhyngwladol. Cafodd y dywgyr gyfle i:
Nod y prosiect oedd dysgu mwy am adrodd straeon a straeon gwerin yng Nghymru. Daw tua 40% o ddysgwyr Monkton Priory o gefndir Sipsiwn a Theithwyr. Roedd cyfleoedd i:
Mae dysgwyr Ysgol Uwchradd Cathays wedi cynllunio murlun i gynrychioli’u cymuned. Roedd UNIFY, artistiaid sydd wedi creu nifer o furluniau enwog yng Nghaerdydd wedi cynnal 6 gweithdy gyda dysgwyr blwyddyn 7 mewn gwersi celf. Roedd y gweithdai yn cynnwys:
Roedd Ysgol Bodhyfryd eisiau dysgu mwy am eu cynefin, a’r cymunedau sy'n Wrecsam. Mae Bom Dia Cymru yn grŵp o siaradwyr Portiwgaleg sy’n cyfarfod yn wythnosol yn Wrecsam. Cafodd yr ysgol lawer o sesiynau gyda Bom Dia Cymru a oedd yn cynnwys:
Nod y prosiect oedd gweithio gyda grwpiau cymunedol i gyd-greu adnoddau dysgu am fudo i Gymru. Fe gysyllton ni â 4 grŵp cymunedol:
Defnyddiwyd eitemau o gasgliad y Llyfrgell ynghyd ag eitemau a ddarparwyd gan y grwpiau cymunedol i adrodd straeon am fudo i Gymru. Bydd y pecynnau yn cael eu profi gydag Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan.