Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeiriad post a manylion ar gyfer llywion â lloeren:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru
SY23 3BU
Gyrrwyr Noder: Os fyddwch yn defnyddio system llywio â lloeren efallai bydd angen i chi sicrhau fod y system wedi ei diweddaru. Fe all hen systemau gymysgu côd post y Llyfrgell â Ffordd Llanbadarn sydd yn union islaw yr adeilad a Rhiw Penglais. Mae'r Llyfrgell wedi ei arwyddbostio'n glir ar hyd yr holl brif ffyrdd i mewn i Aberystwyth.
Ar yr A487 o Fachynlleth, teithiwch i lawr Rhiw Penglais gan basio Canolfan y Celfyddydau ac adeiladau newydd y Brifysgol. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y chwith yn union ar ôl Neuadd Breswyl Pantycelyn. Mae'r Llyfrgell 400 metr ar hyd y lôn.
Ar hyd yr A44 o Langurig fe ddewch at gylchfan fechan yn Llanbadarn, cymerwch y troead cyntaf i'r chwith. Fe ddowch at gylchfan fechan arall, cymerwch yr ail droead tuag at dref Aberystwyth ac ar hyd ffordd breswyl Ffordd Llanbadarn. Byddwch yn pasio Canolfan Hamdden Plascrug. Ar ddiwedd Ffordd Llanbadarn dewch at gyffordd lle mae Tafarn Y Cwps ar y chwith. Trowch i'r dde ac i fyny Rhiw Penglais. Wedi pasio'r fynedfa i Ysbyty Bronglais trowch i'r dde wrth y blwch postio. Mae'r Llyfrgell 400 metr ar hyd y lôn.
Ar hyd yr A487 o Aberaeron dewch at gylchfan ym Mhenparcau. Cymerwch yr ail droead gan ddisgyn ar hyd Rhiw Pen y Bont. Dewch yna at gylchfan arall wrth ymyl siopau Parc y Llyn. Cymerwch y pedwerydd troad gan anelu at bentref Llanbadarn. Cyn dod i mewn i'r pentref trowch i'r chwith ac ar hyd Ffordd Llanbadarn gan basio Canolfan Hamdden Plascrug. Ar ddiwedd Ffordd Llanbadarn dewch at gyffordd lle mae Tafarn Y Cwps ar y chwith. Trowch i'r dde ac i fyny Rhiw Penglais. Wedi pasio'r fynedfa i Ysbyty Bronglais trowch i'r dde wrth y blwch postio. Mae'r Llyfrgell 400 metr ar hyd y lôn.
Gall ymwelwyr a darllenwyr ddefnyddio maes parcio'r Llyfrgell am ddim. Mae wedi ei leoli wrth ochr yr adeilad.
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru 10 o wefrwyr 75kw a 30 o wefrwyr 22kw sy’n darparu capasiti ar gyfer cyfanswm o 40 o gerbydau trydan sy’n golygu mai’r Llyfrgell Genedlaethol yw’r ganolfan wefru fwyaf yng Nghymru. Bydd y gwefrwyr Tritium yn gwefru o 0 i 80% mewn tua 25 munud tra bydd y gwefrwyr 22kw yn cymryd 3-5 awr yn dibynnu ar fodel y car. Gallwch dalu drwy derfynell Payter, yr ap Fuuse, neu drwy eich porwr gwe ar eich ffôn clyfar.
Am ddim. Rhaid rhoi gwybod o flaen llaw a defnyddio'’r bylchau penodedig. Cysylltwch â'r Porthorion i drefnu hyn 01970 632 858 neu prifporthor@llgc.org.uk
Gellir defnyddio derbynebau parcio ar gyfer talu am un pryniant yn y Llyfrgell, yng Nghaffi Pen Dinas, y Siop neu'r gwasanaethau llungopio ar yr un dydd yn unig. Ni ad-delir arian yn erbyn derbynebau parcio.
Mae Gorsaf Aberystwyth wedi ei lleoli ynghanol y dref. Gellir cerdded i'r Llyfrgell mewn chwarter awr neu gellir cael taith fer mewn tacsi neu Bws03 o du allan i'r orsaf. Mae trenau i Aberystwyth yn cyrraedd bob dwy awr, a daw'r gwasanaeth drwy Amwythig. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Traveline Cymru.
Lleolir yr Orsaf Fysiau y drws nesaf i'r Orsaf Drenau. Ceir sawl gwasanaeth lleol a chenedlaethol. Am fanylion pellach cysylltwch â Traveline Cymru.