Symud i'r prif gynnwys

Digwyddiadau

Rydym yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau cyffrous yn seiliedig ar ein casgliadau yn yr adeilad ac arlein.  

Gadewch i ni a’n cyfeillion eich cyflwyno i rai o gymeriadau mwyaf lliwgar ein hanes, eich tywys ar daith trwy rai o'n cyfnodau mwyaf dadlennol neu daflu goleuni newydd ar hen syniadau. O ddarlithoedd i gigs, o sgyrsiau i ffilmiau, mae gennym ddigwyddiad i bawb.

Rhaglen ddigwyddiadau

Arddangosfeydd

Dewch i ddarganfod stori Cymru trwy lygaid ein casgliadau. Bydd ein harbenigwyr yn eich tywys ar daith trwy amrediad ein casgliadau, gan roi llais i'r gorffennol. O’r gweithiau celf enwog, i ddyddiaduron y perchnogion tir, o’r ffilmiau modern i'r ffotograffau cynnar, yn y Llyfrgell daw ein hanes yn fyw. 

Rhaglen arddangosfeydd


Gweithgareddau i blant

Mae’r Llyfrgell yn lle gwych i ymweld gyda phlant. 

Beth am adael i’r plant eich tywys ar hyn y carped coch i ddarganfod ein harddangosfeydd? Neu beth am dreulio amser yn ein Hardal Chwarae a dianc i fyd newydd?  Wrth gwrs, fyddai dim un ymweliad yn orffenedig heb alw heibio ein caffi am ddiod a chacen cyn mynd adref.

Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau i blant yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol lleol, felly cadwch olwg ar ein tudalen ddigwyddiadau am y wybodaeth ddiweddaraf.

Dysgwch fwy am ein cyfleusterau i blant


Caffi Pen Dinas

Mae ein caffi hefyd wedi ei leoli ar y llawr gwaelod ger y dderbynfa. Mae’n cynnig amrywiaeth o brydau a phaneidiau mewn awyrgylch hamddenol a chartrefol. Gydag amrywiaeth o fyrddau a chadeiriau, a chadeiriau esmwyth gyda golygfeydd dros Fae Ceredigion, mae’n leoliad hyfryd i dreulio amser yn mwynhau bwyd da gyda theulu a ffrindiau.

Mwy am Gaffi Pen Dinas


Siop

Mae siop y Llyfrgell wedi ei lleoli ar y llawr gwaelod ger y dderbynfa. Mae’n cynnig amrywiaeth o nwyddau yn seiliedig ar ein casgliadau, llyfrau ac anrhegion chwaethus. Mae’r Llyfrgell yn elusen, felly mae pob eitemau y prynir yn ein siop yn ein cefnogi ni.

Os na fedrwch chi ymweld â ni yn Aberystwyth, cofiwch y gallwch wneud eich siopa ar ein siop arlein.