Symud i'r prif gynnwys

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau copïo ac mae’n hapus i gyflenwi copïau o ddeunyddiau o’i chasgliadau a deunyddiau personol defnyddwyr y Llyfrgell. Nid yw’n bosib atgynhyrchu rhai deunyddiau o gasgliadau’r Llyfrgell oherwydd cyfyngiadau hawlfraint neu gyfyngiadau amodol.

Ni ddylid atgynhyrchu copïau a gyflenwir gan y Llyfrgell heb sicrhau’r caniatâd perthnasol yn ysgrifenedig gan y Llyfrgell: gweler hawliau cyhoeddi.

Ymholiadau ac archebu

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr union atgynhyrchiadau mae eu hangen, a wnewch chi ddarparu manylion llawn ynghylch eich gofynion os gwelwch yn dda?

Am fanylion ynghylch sut i roi archeb, gweler ein tudalen sut i archebu.

Os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch y gwasanaethau reprograffig, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r tîm ymholiadau neu ymwelwch â’r dudalen gwasanaeth ymholiadau am fwy o fanylion.

Prisiau

Mae prisiau yn amrywio yn ôl eich gofynion a chodir TAW ar y raddfa berthnasol ar bob archeb. Am fanylion llawn gweler ein rhestr brisiau atgynhyrchu deunydd.

Mae ffioedd reprograffig a hawliau a godir gan y Llyfrgell am ailddefnydd o wybodaeth yn seiliedig ar adfer y gost o gasglu, cynhyrchu, atgynhyrchu, cadwraeth a chlirio hawliau, ynghyd ag elw rhesymol ar y buddsoddiad.

Gwarchod Data

I weld sut yr ydym yn delio â'ch data personol gweler y Datganiad Preifatrwydd.