Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Os nad ydych yn medru ymweld â'r Llyfrgell i archebu copïau, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau gyda'r:
Byddwn ni'n cwblhau ffurflen archeb ar eich rhan, a'i hanfon atoch i'w llofnodi, ei dyddio, a'i dychwelyd at y Gwasanaeth Ymholiadau gyda'r tâl. Gellir ei hanfon atoch yn electronig, drwy ffacs neu drwy'r post. Os am dalu drwy gerdyn credyd, argraffwch y ffurflen talu â cherdyn credyd' o'r wefan, ei chwblhau, gan nodi rhif eich archeb, a'i dychwelyd gyda'r ffurflen 'cais am gopïau'. Anelwn at anfon y copïau atoch o fewn pythefnos o dderbyn y ffurflen archeb a'r tâl. Gwelwch y rhan 'archebu copïau o bell' ar y dudalen 'Gwasanaeth Ymholiadau' os am fwy o fanylion.
Mae prisiau yn amrywio yn ôl eich gofynion a chodir TAW ar y raddfa berthnasol ar bob archeb. Am fanylion llawn gweler ein rhestr brisiau atgynhyrchu deunydd.
I weld sut yr ydym yn delio â'ch data personol gweler y Datganiad Preifatrwydd.