Symud i'r prif gynnwys

Mae’n bosib llungopïo pob maint o bapur o A4 hyd at A0 mewn du a gwyn ac o A4 hyd at A3 mewn lliw. Dim ond o eitemau dalennau sengl heb eu rhwymo y mae’n bosib llungopïo papur maint mawr (A1-A0).

Lleihau a helaethu

Mae lleihau a helaethu ar gael o 25 – 400% mewn du a gwyn hyd at faint A2 a lliw yn ogystal. Does dim cyfleuster ar gyfer lleihau a helaethu ar gyfer deunydd sy’n fwy na A2.

Hunanwasanaeth

Mae llungopïo hunanwasanaeth gyda chyfyngiadau penodol ar gael i  ddeunydd printiedig gwreiddiol a microffilm. Mae’n rhaid prynu cerdyn llungopïo ar gyfer y gwasanaeth hwn. Dim ond mewn du a gwyn ac ar gyfer maint A4 mae’r gwasanaeth hwn ar gael.

Llungopïo lliw

Mae llungopïo lliw yn gweddu orau ar gyfer pwrpas cyfeirio yn unig; ni all y Llyfrgell warantu sefydlogrwydd ffotocopïau lliw yn y tymor hir. Cyfeiriwch os gwelwch yn dda at ein tudalen delweddau ffotograffig/digidol am ein hystod lawn o wasanaethau lliw.

Eithriadau

Gellir darparu rhai deunyddiau nad ydynt yn addas i’w ffotocopïo’n uniongyrchol trwy gynhyrchu microffilm (microprint) yn gyntaf ac yna ffotocopi o’r microffilm. Bydd y tîm ymholiadau yn rhoi gwybod i gwsmeriaid os mai dyma’r ffordd fwyaf addas o gopïo.

Sut i archebu

Am fanylion ynghylch sut i archebu, gweler ein tudalen sut i archebu.

Ni ddylid atgynhyrchu atgynyrchiadau a ddarparwyd gan y Llyfrgell heb sicrhau caniatâd ysgrifenedig gan y Llyfrgell: gweler hawliau cyhoeddi.

Prisiau

Mae prisiau yn amrywio yn ôl eich gofynion a chodir TAW ar y raddfa berthnasol ar bob archeb. Am fanylion llawn gweler ein rhestr brisiau atgynhyrchu deunydd.