Glan yr Afon, Hwlffordd
Rydym yn hynod o falch i fod yn bartner yng nghanolfan Glan yr Afon, Hwlffordd. Mae Sir Benfro yn enwog am eich chestyll a’i chromlechi, ac yn gartref i hanes a diwylliant hynod; o’r cwrwgle i fynyddoedd hudolus y Preseli, o feirdd mawr ein cenedl fel Waldo Williams, i rai o’n badiau enwocaf fel Jess.
Tarwch i mewn i’r ganolfan i weld ein harddangosfa barhaol am y sir hynod hon, Stori Sir Benfro, neu i bori trwy ein harddangosfeydd tymor byr ddaw a blas i chi o’n casgliadau anhygoel.
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau addysg yn y ganolfan, felly mae rhywbeth yno i bawb.