
Ymholiadau
Mae croeso i chi gysylltu â’n Gwasanaeth Ymholiadau os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein casgliadau, sut i'w chwilio neu sut i'w defnyddio.
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ac anelwn i ateb bob ymholiad o fewn 10 diwrnod gwaith.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Dyma restr o'r holl adnoddau digidol a ddarperir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent i gyd ar gael i'w defnyddio yn rhad ac am ddim (nid oes angen cofrestru).
Ceir mynediad i'r adnoddau allanol y mae'r Llyfrgell yn cyfrannu atynt ar ein tudalen Adnoddau eraill.
Cyfyngwch eich chwiliad i'r casgliad archifau a llawysgrifau, gan hwyluso canfod eitemau. Gallwch hefyd weld y goeden archifol.
Rhaid defnyddio’r prif Gatalog i chwilio’r casgliad Ewyllysiau, Ymrwymiadau Priodas a Chasgliad Traethodau Cymru.
Darganfod 15 miliwn o erthyglau a 1.1 miliwn o dudalennau.
Mae chwilio a gweld y delweddau'n rhad ac am ddim.
Mynediad i ysgolheictod o Gymru. Ôl-rifynnau hyd at 50 o deitlau, yn amrywio o gyhoeddiadau academaidd i gylchgronau poblogaidd.
Chwiliwch 71,000+ o'r 390,296 o fenywod a arwyddodd Ddeiseb Heddwch 1923.
Bydd mwy o enwau'n cael eu hychwanegu wrth i'r prosiect trawsgifio barhau.
Darganfyddwch mapiau degwm Cymru. Chwiliwch a phorwch dros 300,000 o gofnodion o fapiau degwm Cymru a’r dogfennau pennu sy’n cyd-fynd â nhw gan ddefnyddio mapiau gwreiddiol a chyfoes.
Dros 5 000 o fywgraffiadau sy'n cyflwyno Cymry a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd yng Ngymru a thu hwnt.
Gwybodaeth am droseddau, troseddwyr, a chosb sydd ar gael ymhlith ffeiliau carchar Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru o 1730 hyd diddymu'r llys ym 1830.
Porwch restr o eitemau'n ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf sydd wedi eu digido o gasgliadau'r Llyfrgell.
Chwilio trwy adroddiadau blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1909-2000.
Rhestr A-Z o dros 50 o'r casgliadau ystâd mwyaf poblogaidd/mwyaf yn LlGC.
Chwiliwch trwy tua 50,000 o draethodau a thraethodau hir a gyflwynwyd ar gyfer graddau ôl-radd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Chwiliwch trwy tua 4,000 o faledi wedi'u digido, a hynny o gasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol a Llyfrgell Prifysgol Caerdydd. Llun Hawlfraint Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.
Mynegai i farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau.
Chwiliwch yma am ewyllysiau a brofwyd yn y Llysoedd Eglwysig Cymreig cyn 1858.
Chwiliwch fynegai ymrwymiadau priodas ac affidafidion cyn-1837.
Wedi ei sefydlu yn 1939, mae Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyhoeddi erthyglau yn seiliedig ar y casgliadau. Gall cyfraniadau ymaddangos yn Gymraeg neu'n Saesneg.
Mae croeso i chi gysylltu â’n Gwasanaeth Ymholiadau os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein casgliadau, sut i'w chwilio neu sut i'w defnyddio.
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ac anelwn i ateb bob ymholiad o fewn 10 diwrnod gwaith.