Symud i'r prif gynnwys

I gofnodi canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r Llyfrgell wedi casglu, digido a rhoi mynediad i filoedd o eitemau o’i chasgliadau sy’n ymwneud â’r profiad Cymreig o’r gwrthdaro.

Dyma ddetholiad y gallwch eu gweld arlein nawr.

Hedd Wyn - Yr Arwr

Y gerdd ‘Yr Arwr’ gan Hedd Wyn, a ysgrifenwyd yn llaw y bardd ei hun. Hon oedd y gerdd a enillodd y gadair iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw yn 1917, ond ar ôl iddo gael ei ladd ym mrwydr Pilkem Ridge yn Fflandrys.

Mapiau o Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae tua 2,000 o fapiau, rhai yn swyddogol/milwrol ac eraill gan aelodau’r cyhoedd, a gyhoeddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys y map hwn o’r ffosydd a gynhyrchwyd gan y Peirianwyr Brenhinol yn 1917.

Dyddiadur Rhyfel Edward Thomas

Mae dyddiadur y bardd a'r llenor Edward Thomas yn cofnodi ei symudiadau yn ystod 1917, gan ddechrau yn Ionawr, pan oedd gyda’i gatrawd yn Lydd, Kent, ac yn diweddu y noson cyn ei farwolaeth ym mis Ebrill.

Llyfrau enwau'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, 1915

Defnyddid llyfrau enwau (roll books) i restru enwau’r rhai a oedd yn gwasanaethu mewn cwmni. Roedd y ddau lyfr enwau hyn, oedd yn cael eu cadw yn 1915, yn perthyn i Cwmni D, 20fed Bataliwn yr E Gwmni, 16eg Bataliwn, Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru

Mae Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cofnodi enwau 35,000 o filwyr , yn ddynion a merched o Gymru ynghyd ag aelodau o gatrodau Cymreig, a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gan weithio ar y cyd gyda phrosiect Cymru dros Heddwch, mae’r Llyfr wedi’i drawsgrifio gan wirfoddolwyr fel y gellir nawr ei chwilio.

Llythyrau David Jones

23 o lythyrau a ysgrifenwyd gan yr awdur a’r llenor David Jones i’w gyfail T F Burns sy’n cynnwys disgrifiadau o’u brofiadau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cofiant y Barwn Davies 1af o Landinam

Roedd yr Arglwydd Davies yn ddiwydiannydd, dyngarwr a gwleidydd. Cynrychiolodd Sir Drefaldwyn fel Aelod Seneddol dros y Rhyddfrydwyr rhwng 1906 a 1929 ac ar ôl ymladd yn y Rhyfel Mawr cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Seneddol i David Lloyd George ym mis Mehefin 1916.

Yn dilyn ei brofiadau yn ystod y Rhyfel daeth yn ymgyrchwr brwd dros drefn rhyngwladol i osgoi rhyfeloedd gan sefydlu y New Commonwealth Society. Roedd y gymdeithas yn weithgar iawn yn nifer o wledydd yn ffurfio a hyrwyddo syniadau am awdurdod, cyfraith, heddlu ac awyrlu rhyngwladol i gadw heddwch.

Gellir darllen cofiant yr Arglwydd Davies sydd heb ei gyhoeddi cyn hyn, arlein.