Symud i'r prif gynnwys

Mae Baledi Cymru Arlein yn cynnwys tua 4,000 o faledi wedi'u digido, yn dyddio yn bennaf o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hynny o gasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol a Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.

Digidwyd y baledi hyn fel project ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a'r Llyfrgell Genedlaethol, gyda chefnogaeth Prifysgolion Abertawe, Bangor a Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Ariannwyd y cynllun gan JISC fel rhan o'r rhaglen Cyfoethogi Adnoddau Digidol.


 

Ceir mwy o wybodaeth am y project ar wefan Prifysgol Caerdydd.