Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Os hoffech chi wneud cais am atgynhyrchiad digidol o eitem o gasgliadau'r Llyfrgell neu ganiatâd i ddefnyddio atgynhyrchiad at bwrpas sydd fel arall yn waharddedig, bydd angen trwydded arnoch.
Wrth wneud cais am drwydded gan y Tim Ymholiadau, bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:
Noder os gwelwch yn dda:
Ceir mwy o wybodaeth am y modd y mae'r Llyfrgell yn ymdrin â hawlfraint yn adran Hawlfraint y wefan.
Mae ein strwythur prisiau (heb gynnwys ffioedd reprograffig) i'w canfod o dan 'Dogfennau perthnasol - Rhestr ffioedd hawliau'. Am fanylion llawn cysylltwch â 'r Gwasanaeth Ymholiadau.
Noder bod rhestr brisiau wahanol ar gyfer deunydd o Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymraeg.
Mae ffioedd reprograffig a hawliau a godir gan y Llyfrgell am ailddefnydd o wybodaeth yn seiliedig ar adfer y gost o gasglu, cynhyrchu, atgynhyrchu, cadwraeth a chlirio hawliau, ynghyd ag elw rhesymol ar y buddsoddiad.
I weld sut yr ydym yn delio â'ch data personol gweler y Datganiad Preifatrwydd.
Ymunodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru â Flickr Commons yn 2009 er mwyn annog pobl i ddefnyddio’n casgliadau o luniau, a’u disgrifio.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau hawlfraint y gwyddys amdanynt ar luniau’r Llyfrgell sydd ar Flickr Commons; golyga hyn nad yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau hawlfraint cyfredol ar y lluniau, gan amlaf oherwydd mai’r Llyfrgell sydd berchen yr hawlfraint, neu gan fod cyfnod yr hawlfraint wedi dod i ben.
Pe byddai gennych ddiddordeb mewn atgynhyrchiad o ansawdd uchel, neu eisiau ail-ddefnyddio'r lluniau’n fasnachol, cysylltwch â’r tîm ymholiadau.