Symud i'r prif gynnwys

Croesawu gwirfoddolwyr

Rydym yn awyddus iawn i agor ein drysau a rhoi cyfle i chi weithio’n wirfoddol yn y Llyfrgell. Bydd gwirfoddolwyr yn ymwneud â phob math o brosiectau diddorol gan ychwanegu at werth yr hyn a gyflawnir gan ein staff ar hyn o bryd. O bryd i’w gilydd byddwn yn gofyn am gymorth arbenigol, ond ar gyfer llawer o'n prosiectau y cyfan sydd ei angen yw brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu.

O roi o’ch amser i ni byddwch chi, fel ni, ar eich ennill.

Sut y medrwch chi helpu?

Rhaglenni cyhoeddus – gall cyfleoedd gynnwys cynorthwyo mewn gweithgareddau, neu helpu gyda’n harddangosfeydd drwy groesawu ac ymateb i ymholiadau a gofynion aelodau’r cyhoedd.

Tu ôl i'r llenni – yn aml, dyma'r lle prysuraf, lle rydym yn rheoli, cadw a chynnal y casgliadau cenedlaethol. Gallwch roi trefn ar eitemau o’r casgliadau, a’n helpu wrth baratoi ar gyfer catalogio ac archifo, creu rhestrau neu ymchwilio, gan fanteisio ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

O bell – mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi datblygu cyfleoedd i bobl i ddod yn wirfoddolwyr digidol trwy ein gwefan cyfrannu torfol newydd. Mae gwirfoddolwyr ar draws Cymru a thu hwnt yn medru cyfrannu at ein gwaith o’u cartrefi, o ganolfannau lleol, neu unrhyw le â chysylltiad di-wifr.

Beth gewch chi o'r profiad?

  • Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad o fewn y sector treftadaeth;
  • Hyfforddiant priodol;
  • Cwrdd â ffrindiau newydd sy’n mwynhau’r un diddordebau;
  • Cefnogi gwaith Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
  • Profiad gwaith i ehangu eich CV.

Sut i gychwyn

Yn gyntaf ewch i weld Cyfleoedd cyfredol a/neu Gwirfoddoli o Bell i weld a oes un sy'n apelio. Darllenwch y disgrifiad rôl yn fanwl yn enwedig y Gofynion a'r Ymroddiad.

Cyn gwneud cais meddyliwch dros y canlynol:

  • eich rhesymau dros wirfoddoli;
  • sut byddai gwirfoddoli'n gweithio gyda'ch ymrwymiadau eraill.

Ar ôl penderfynu pa rôl wirfoddoli sy'n gweddu orau i'ch sgiliau a'ch diddordebau llenwch y ffurflen gais (a welir yn un o'r dolenni yn Dogfennau Perthnasol sydd ar waelod y dudalen yma). Fel arfer rhoddir gwybod i ymgeiswyr am hynt eu cais drwy ebost.

Os na welwch rywbeth at eich dant ymhlith y prosiectau cyfredol yna beth am gofrestru nawr ar gyfer prosiectau’r dyfodol, fel bod modd i ni gysylltu â chwi eto pan ddaw'r amser.

Gydag unrhyw ymholiadau ac i gofrestru cysylltwch â:

Eilir Evans

Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Ebost: gwirfoddoli@llgc.org.uk

Ffôn: (01970) 632424


Cofiwch mai 16 yw'r oed ifancaf i wirfoddoli – ond does neb byth yn rhy hen i gychwyn!

Dolenni perthnasol