Symud i'r prif gynnwys

Os felly, beth am weithio gyda ni i warchod ei stori i genedlaethau’r dyfodol. Gallwch fod yn rhan o’r tîm brwdfrydig sy’n gweithio i wneud ein stori yn agored i bawb, a chreu cyfleoedd i genedlaethau newydd ei dehongli.

Mae sawl ffordd y gallwch chi weithio gyda ni, o ymgeisio am swyddi gwag ar staff y Llyfrgell, i wirfoddoli, i gefnogi gwaith y Llyfrgell yn ariannol.

Darllenwch ymlaen i ffendio’ch lle chi yn stori’r Llyfrgell Genedlaethol.

Swyddi

Hoffech chi ymuno â thîm un o sefydliadau cenedlaethol Cymru? Ydych chi’n weithiwr brwdfrydig sy’n hoffi sialens? Ydych chi’n awyddus i gyflwyno stori Cymru i'r byd? Yna efallai mae’r Llyfrgell yw’r lle i chi.

Mae’r Llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth. Beth amdani? 

Gwybodaeth am swyddi gwag


Gwirfoddoli

Oes gyda chi ddiddordeb yn hanes a threftadaeth Cymru? Ydych chi’n hoffi cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau? Hoffi heriau newydd, cyffrous? Beth am ymuno â’n cynllun gwirfoddolwyr?  

Mae ein prosiectau’n amrywio o heriau unigol o adref, i heriau unigol neu dîm yn y Llyfrgell. Mae’r prosiectau'n cynnwys pethau fel trawsgrifio ac adnabod gwybodaeth neu brofi gwefannau’r Llyfrgell. Mae’r gwaith hwn yn holl bwysig er mwyn rhoi mynediad i'r casgliadau. 

Cyfleon gwirfoddoli a sut i ymuno  


Cyfrannwch

Sefydlwyd y Llyfrgell Genedlaethol gyda rhoddion pobl Cymru. Ei chasgliad craidd oedd casgliad llawysgrifau Hengwrt a roddwyd i'r Llyfrgell gan Syr John Williams. Mae’r traddodiad yma o gefnogi’r Llyfrgell yn parhau hyd heddiw.  

O gyfraniadau ariannol i gymynroddion neu gyfrannu eitemau i'r casgliad, mae eich cyfraniad chi i'r Llyfrgell yn diogeli ein hanes a’n traddodiadau i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Mae’r Llyfrgell yma i ddiogeli stori Cymru, beth am ymuno â ni?  

Dysgwch fwy am sut i gyrfannu i'r Llyfrgell