Symud i'r prif gynnwys

Prif Gatalog

O’r Prif Gatalog gallwch chwilio ar draws holl gasgliadau’r Llyfrgell ac archebu deunydd i'w gweld yn ein Hystafell Ddarllen. Cofiwch fod angen ymaelodi â’r Llyfrgell cyn y gallwch archebu deunydd. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen Tocynnau Darllen.

Mae ein casgliadau’n helaeth, felly mae modd cyfyngu eich chwiliadau ar y Prif Gatalog er mwyn lleihau’r nifer o ganlyniadau. Mae’r Prif Gatalog yn fan cychwyn da os yw eich chwiliad yn un cyffredinol.

Ceir cymorth ar ein tudalen cymorth Catalog.

Mynd i Gatalog y Llyfrgell


Catalogau Arbenigol

Mae gennym nifer o gatalogau arbenigol lle gallwch chwilio ar draws mathau neu setiau penodol o gasgliadau. 

Mae nifer o'r catalogau hyn yn dangos y casgliadau arlein ee Papurau Newydd Cymru, Cylchgronau Cymru a Lleoedd Cymru.

I archebu deunydd i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen, rhaid defnyddio naill ai'r Prif Gatalog neu Archifau a Llawysgrifau LlGC (sydd wedi ei restri ar y dudalen catalogau arbenigol). 

Gweld y catalogau arbenigol

Archifau a Llawysgrifau LlGC

Dyma’r catalog ar gyfer chwilio ac archebu deunydd o gasgliadau archifau a llawysgrifau’r Llyfrgell. Gellir cael mynediad at y casgliadau hyn ar y Prif Gatalog hefyd, ond mae’r catalog hwn yn cyfyngu eich chwiliadau, ac felly’n ei gwneud hi’n haws i ganfod eitemau unigol yn gyflym. Gallwch hefyd weld y goeden archifol sy’n dangos perthynas eitemau unigol gyda gweddill y casgliad.

Noder, fod rhaid defnyddio’r Prif Gatalog i chwilio’r casgliad Ewyllysiau, Ymrwymiadau Priodas a Chasgliad Traethodau Cymru.

Chwilio Archifau a Llawysgrifau LlGC

Adnoddau Eraill

Tra fod gennym nifer o adnoddau chwilio mewnol sy’n caniatau i chi chwilio trwy ein casgliadau, rydym hefyd yn cyfrannu delweddau digidol o’n casgliadau i wefannau a phrosiectau allanol. Mae’n bwysig ein bod ni’n rhannu ein casgliadau mor eang a phosib, a bod ein casgliadau yn cyfrannu at ddehongliad stori Cymru trwy gael eu gweld ochr yn ochr â chasgliadau o lefydd eraill.

Pori LlGC ar adnoddau eraill


Defnyddio’r Ystafell Ddarllen

Gall unrhyw un dros 16 oed gofrestru fel darllenydd er mwyn defnyddio’n Hystafell Ddarllen.

  • Rhaid cofrestru fel darllenydd er mwyn cael mynediad i'r Ystafell Ddarllen 

  • Mae angen dangos 2 brawf adnabod (un yn nodi cyfeiriad cyfredol) i gael tocyn darllen llawn 

Gallwch archebu eitemau o’r casgliadau i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen ar y Prif Gatalog ac Archifau a Llawysgrifau LlGC yn unig. 

Cofrestru a defnyddio’r Ystafell Ddarllen