Ymweliadau a gweithdai

Cyn i chi ymweld â'r Llyfrgell bydd angen i chi gysylltu â ni i drafod manylion yr ymweliad. Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn gyfrifol am ymweliadau gan ysgolion, grwpiau o fyfyrwyr, colegau, teuluoedd sy'n cyflwyno addysg ffurfiol, a dysgwyr gydol oes.
Gwanwyn 2025: Gweithdai celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn ystod y gwanwyn bydd Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn cyflwyno gweithdai sy'n seiliedig ar arddangosfa 'Dim Celf Gymreig'. Bydd yr ymweliadau yn gyfle i ddysgwyr fwynhau dros 250 o weithiau celf Cymreig sydd o arwyddocâd cenedlaethol, a hynny yn ardal arddangos fwyaf y Llyfrgell, Oriel Gregynog. Prif thema'r gweithdai fydd hunaniaeth, a bydd y gweithgareddau yn canolbwyntio ar sut rydym yn gweld ein hunain fel unigolion, yn ogystal â sut y mae eraill yn ein portreadu ni a'n cynefinoedd.
Adnoddau dysgu
Mwy o adnoddau dysgu
Brwydr Abertawe
Protestiadau gwrth-apartheid yn ystod taith rygbi De Affrica ym 1969.

Y 'Wales Window', Alabama
Yr ymateb yng Nghymru i ymosodiad hiliol yn Birmingham, Alabama.
Prosiectau
Gwybodaeth am brosiectau sy'n cael eu harwain gan Wasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ymchwil LlGC
Fel sefydliad dysg, mae’r Llyfrgell yn frwd iawn i gyfrannu at y maes ymchwil. Fe sefydlwyd y Rhaglen Ymchwil ar gyfer Casgliadau Digidol (Ymchwil LlGC) yn 2011. Diddordeb y rhaglen yw edrych ar ddefnydd casgliadau digidol ac asesu sut y gellir gwella’r ffordd y maent yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil, addysgu, neu ymgysylltu â'r gymuned. Y gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn arwain at ddatblygu cynnwys digidol newydd.

Ymweld â’r Llyfrgell gyda phlant
Mae’r Llyfrgell yn lle gwych i ymweld gyda’r teulu.
-
Mae ardal ar gyfer plant ym Myd y Llyfr ar y llawr gwaelod
-
Mae cyfleusterau newid babi ar gael
-
Mae mynediad a defnydd o gaffi Pen Dinas gyda phram yn hawdd, ac mae staff ar gael i'ch helpu