Cefnogwch ni trwy gyfrannu
Diogelu Cof y Genedl
Sefydlwyd y Llyfrgell gan roddion pobl Cymru, a gyda'n gilydd gallwn barhau'r traddodiad. Cyfrannwch i warchod ein treftadaeth i genedlaethau'r dyfodol. Bydd pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol yn ystod yr wythnosau nesaf. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Am fwy o fanylion ar sut i gofrestru i ddod yn ddarllennydd, gweler ein tudalen Tocynnau Darllen.
Mae'n rhaid cael Tocyn Darllen dilys er mwyn archebu eitemau ar y Catalog i'w gweld yn ein Hystafell Ddarllen ac i ddefnyddio'r Adnoddau Allanol. Ceir rhagor o fanylion am ddefnyddio'r Adnoddau Allanol ar y dudalen Beth Gallaf ei Weld.
Gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif yng nghornel uchaf dde y Catalog (botwm 'Mewngofnodi'). Mae'n rhaid mewngofnodi er mwyn archebu eitemau o'r Catalog a gweld deunydd y tanysgrifiwyd iddynt.
Nid oes botwm pwrpasol ar gael. Mae'n rhaid cau y porwr yn gyfan gwbwl i allgofnodi. Rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ychwanegu botwm allgofnodi pwrpasol.
Gellir newid eich cyfrinair ar y dudalen Newid Cyfrinair.
Gallwch gau neu newid eich manylion yn eich cyfrif trwy gysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau.
Nid yw'r Llyfrgell yn cyrchu eitemau i'r Ystafell Ddarllen ar ddydd Sadwrn. Felly, RHAID archebu'r holl ddeunydd cyn 16:15 ar y dydd Iau cyn eich ymweliad.
Anogir darllenwyr i archebu eitemau oflaen llaw os yn bosib. Am fanylion manylach gweler ein tudalen Amseroedd Cyrchu
Ar y prif Gatalog gallwch gyfyngu eich chwiliadau i'r prif gasgliadau hyn:
Mae tudalen Adnoddau'r Llyfrgell yn cynnig rhestr lawn o'r holl wefannau/catalogau/ffurflenni sydd ar gael i chwilio ein casgliadau.
Mae hon yn rhestr hir, ac yn cynnwys rhai gwefannau adnabyddus fel Papurau Newydd Cymru Arlein, ac eraill, llai adnabyddus, fel Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg Mewn Llawysgrifau.
Mae hefyd yn cynnwys ffurflenni chwilio pwrpasol i chwilio rhai casgliadau penodol ee ewyllysiau, ymrwymiadau priodas.
Mae Archifau a Llawysgrifau LLGC yn gatalog pwrpasol i chwilio'r casgliadau hyn. Mae'n caniatáu i chi weld y goeden archifol ar gyfer pob casgliad, a gwneud cais am y deunydd i'w weld yn yr Ystafell Ddarllen.
Gallwch hefyd chwilio trwy'r casgliadau hyn o'r prif Gatalog, ond efallai y bydd angen i chi hidlo'ch canlyniadau i weld dim ond archifau a llawysgrifau, yn dibynnu ar eich term chwilio. Cewch eich cyfeirio at gatalog Archifau a Llawysgrifau LlGC i wneud cais am yr eitemau.
Gweler ein tudalen Beth Gallaf ei Weld am fwy o fanylion ynghylch yr hyn y gallwch ei weld cyn ac ar ôl cofrestru.
Ceir rhestr lawn o'r holl Adnoddau Allanol mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn tanysgrifio iddynt ar ein tudalen Adnoddau Allanol.
Arienir y cynllun gan Lywodraeth Cymru, ac felly i gael mynediad, rhaid cael cyfeiriad yng Nghymru neu gôd post Cymreig.
Nid oes rhaid mewngofnodi cyn chwilio, ond gall fod yn ddefnyddiol gan na fydd yn rhaid i chi ail-ddewis unrhyw gyfrolau ac ati y gallech fod wedi eu dewis eisoes ar y cofnod eitem.
Os mai dim ond canlyniadau ar gyfer eitemau a gedwir yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol yr ydych chi eu heisiau, dylech ddewis 'Yn y Llyfrgell' o'r ddewislen wrth i chi nodi'ch term chwilio.
Mae rhestr o'n Adnoddau Allanol ar dop bob tudalen o'r Catalog. Mae hefyd i'w weld mewn blwch ar y dudalen flaen.
O'r rhestr hon gallwch ddewis pa adnoddau yr hoffech eu chwilio, neu gallwch chwilio ar draws y cyfan o'r blwch chwilio ar frig y dudalen.
Mae Archifau a Llawysgrifau LlGC yn gatalog ymroddedig ar gyfer ein casgliadau archifol a llawysgrifau. Gallwch chwilio a gweld y goeden archifol ar gyfer pob casgliad ar y catalog hwn. Gallwch hefyd ofyn am eitemau i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen
Os dymunwch, gallwch chwilio archifau a llawysgrifau yn y brif Gatalog, ond byddai angen i chi hidlo eich canlyniadau i'r casgliadau hyn yn unig. I wneud hyn, dewiswch Archifau a Llawysgrifau o dan Math o Adnoddau' yng ngholofn dde eich canlyniadau.
Sylwer na allwch chwilio am ewyllysiau na bondiau priodas yn Archifau a Llawysgrifau LlGC. Dylech ddefnyddio'r ffurflen chwilio am ewyllysiau pwrpasol a'r ffurflen chwilio am fondiau priodas i chwilio'r casgliadau hyn.
Oes. Mae nifer o wefannau a ffurflenni chwilio sy'n eich galluogi i chwilio am gasgliadau penodol ee Papurau Newydd Cymru Arlein, Ewyllysiau ac ati.
Gweler y dudalen Adnoddau Llyrgell am rest gyflawn o'r adnoddau chwiliadwy sydd ar gael. Ambell waith mae'n well defnyddio'r adnoddau pwrpasol ar y dudalen hon er mwyn chwilio casgliadau pendool fel bod eich chwilio wedi cyfyngu'n gywir. Mae rhai yn cynnig nodweddion ychwanegol ee chwilio papurau newydd ar lefel erthygl.
Wrth chwilio ar unrhyw un o'n Catalogau, mae'n well osgoi defnyddio brawddegau.
Bydd y Catalog yn chwilio am yr holl dermau yr ydych chi'n eu defnyddio, felly bydd defnyddio brawddegau hir yn dod â llawer o ganlyniadau amherthnasol e.e. peidiwch â defnyddio termau chwilio fel 'ewyllysiau o esgobaeth Llanelwy'. Yn lle hynny, dylech gyfyngu eich termau chwilio e.e. ewyllysiau A Llanelwy (gweler y cwestiwn am chwilio Boolean isod am eglurhad ynghylch sut i ddefnyddio ‘A’ yn eich termau chwilio).
Medrwch. Pan fyddwch yn teipio eich termau chwilio, fe welwch chi ddewislen yn ymddangos o dan y blwch chwilio. Mae hwn yn eich galluogi i ddewis pa fath o ddeunydd yr hoffech eu chwilio. Bydd clicio ar un o'r rhain yn cyfyngu eich canlyniadau chwilio’n sylweddol. Gweler y dudalen gymorth Beth Gallaf ei Chwilio i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'r opsiynau yma’n golygu.
Gallwch hefyd weld y rhestr hon yn y ddewislen i'r dde o'r blwch chwilio (mae'n dweud Yn Y Llyfrgell). Mae'r rhestr hon ychydig yn hwy na'r ddewislen sy'n ymddangos wrth i chi deipio.
Yn ddiofyn, byddwch bob amser yn chwilio Yn Y Llyfrgell, sy'n golygu y bydd eich chwiliad yn cael ei gyfyngu i holl gasgliadau LlGC.
Ar ôl i chi weld eich canlyniadau, fe welwch golofn o hidlwyr i'r dde sy'n eich galluogi i fireinio'ch canlyniadau.
Gallwch fireinio trwy:
Gallwch ddewis un eitem ar y tro o'r rhestr trwy glicio ar destun yr un rydych ei eisiau.
Gallwch ddewis mwy nag un ar yr un pryd drwy dicio'r blychau ar y chwith i bob label (testun) ac yna clicio ar y botwm Gosod Dewisiadau sy'n ymddangos ar waelod y golofn.
Gallwch hefyd ddewis hepgor rhai o'r eitemau trwy symud y lygoden dros y testun a chlicio ar yr eicon coch o flwch gyda thic a llinell drwyddo sy'n ymddangos i'r dde o'r testun.
Bydd unrhyw hidlyddion yr ydych wedi'u dewis yn ymddangos ar frig y golofn hidlwyr ar yr ochr dde o dan y teitl Dewisiadau Cyfredol. I glirio'r rhain cliciwch ar yr opsiwn Clirio Dewisiadau ar waelod eich rhestr hidlwyr dethol.
Gallwch drefnu'ch canlyniadau trwy:
Cliciwch ar y saeth i lawr sydd i'r dde o'r opsiwn Trefnu Yn Ôl ar ben y golofn dde yn eich rhestr canlyniadau.
Perthnasedd yw’r drefn didoli ddiofyn.
Gorchmynion yw'r rhain sy'n eich galluogi i gyfuno termau chwilio i ehangu neu gyfyngu eich chwiliad. Mae'r termau a gefnogir yn y Catalog hwn yn cynnwys A, NEU, NID a AGOS
Defynddir nodchwilwyr yn lle llythrennau coll. Maent yn ddefnyddiol wrth chwilio am sillafiadau gwahanol.
Defnyddiwch ? i nodi sawl llythyren sydd ar goll; defnyddiwch un ? ar gyfer pob llythyren coll, er enghraifft: Bydd tr?n yn canfod trên ond nid troeon
Defnyddiwch * i gynrychioli nifer amhenodol o lythrennau coll, er enghraifft: Bydd tr*n yn dod o hyd i trên neu troeon ayb.
Gallwch ddefnyddio talfyriadau ar ddechrau neu ar ddiwedd geiriau, er enghraifft: Bydd llyf* yn dod o hyd i llyfrgell, llyfrgellydd, ayb. Dim ond llyfr a ddychwelir wrth ddefnyddio llyf? Daw *oes o hyd i coes, croes, Tre-groes, ayb.
Os ydych chi'n ymwybodol bod eitem benodol yn y casgliad, ond ni allwch ddod o hyd iddi ar y Catalog, gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais nad yw yn y Catalog.
Cliciwch ar y ddolen i'r dde o brif flwch chwilio’r Catalog. Dewiswch un o'r opsiynau Chwilio i gyfyngu'ch chwiliad. Y dewisiad diofyn yw Yn Y Llyfrgell (chwilio casgliadau LlGC yn unig). Defnyddiwch y ddewislen Teitl i fireinio eich chwiliad ee os ydych chi'n gwybod y teitl neu'r awdur, dewiswch yr opsiwn perthnasol a rhowch eich term chwilio yn y blwch ar y dde. Gallwch ddefnyddio sawl un o’r blychau chwilio os ydych chi'n gwybod, er enghraifft, y teitl a'r awdur. Gallwch ddefnyddio'r opsiynau ar y dde os ydych chi'n gwybod, er enghraifft, y flwyddyn, neu'r math o ddeunydd y mae gennych ddiddordeb ynddo. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu eich termau chwilio, bydd y testun Chwilio yn ymddangos yng nghornel dde isaf y blwch - cliciwch hwn i chwilio. Bydd eich canlyniadau yn ymddangos o dan y blwch.
Fe welwch ddolen i restr o'n holl Adnoddau Allanol ar frig pob tudalen ar y Catalog, ac hefyd mewn blwch ar y dudalen flaen.
O'r rhestr hon, gallwch ddewis yr adnodd yr hoffech ei chwilio, neu gallwch chwilio ar draws y cyfan trwy ddefnyddio'r blwch chwilio ar frig y dudalen.
Gall unrhyw un chwilio'r Adnoddau Allanol, ond mae'n rhaid cofrestru i weld yr adnoddau. Mae rhai cyfyngiadau eraill hefyd yn berthnasol. Am fwy o wybodaeth am y cyfyngiadau hyn, gallwch ddarllen ein tudalen Beth Gallaf Weld.
Y ffordd orau a chwilio trwy archifau a llawysgrifau LlGC yw trwy ddefnyddio Archifau a Llawysgrifau LlGC. Mae hwn yn gatalog pwrpasol sy'n chwilio'r casglaidau hyn yn unig.
Y rhestr blygadwy yw'r goeden archifol. Mae'r goeden hon yn dangos yr holl wahanol eitemau o fewn casgliad arbennig, a sut maent yn perthyn i'w gilydd. O fewn casgliad fel Papurau Ystâd Badminton ceir nifer fawr o eitemau unigol. Mae'n bosib eich bod wedi agor cofnod sydd yn eistedd yng nghanol y casgliad, a'r goeden archifol sy'n caniatau i chi weld beth sy'n dod cyn ac ar ôl y cofnod hwnnw, a sut y mae'n perthyn i weddill y casgliad.
Unwaith eich bod wedi agor y casgliad sydd angen arnoch yn Archifau a Llawysgrifau LlGC, fe welwch y goeden archifol yn y golofn chwith (sy'n rhestri pob cofnod yn y casgliad). Uwchben y goeden fe welwch label 'Chwiliad cyflym' - cliciwch ar hwn. Teipiwch eich term chwilio yn y blwch, ac mi welwch yr holl ganlyniadau perthnasol yn ymddangos o dan y blwch chwilio. Dewisiwch gofnod, ac mi fydd y disgrifiad yn y agor yn y golofn dde.
Gallwch chwilio am ewyllysiau trwy ein ffurflen chwilio ewyllysiau bwrpasol.
Ar y ffurflen chwilio hon gallwch ddewis un neu fwy o'r canlynol: esgobaeth, dydiadu, plwyf, trefgordd neu alwedigaeth. Y mwyaf o'r rhain y gallwch eu llenwi, y mwyaf cywir fydd eich canlyniadau.
Wedi i chi lenwi'r ffurflen, fe'ch dargyfeirir i'r canlyniadau ar y Catalog.
Os ydych chi'n chwilio am gyfeirnod arbennig, gellir ei ganfod o dan y label 'Gosod cais' ar gyfer bob ewyllys (i'r dde o'r teitl 'Lleoliad').
I weld yr ewyllys cliciwch ar y label 'Gweld' o dan yr ewyllys cywir. I weld fersiwn mwy, cliciwch ar 'Gweld fersiwn mwy mewn ffenestr newydd' (bydd hwn yn agor mewn 'tab' newydd yn y porwr).
I weld yr ewyllys fel sgrin lawn, cliciwch ar 'Sgrin lawn' yn y gornel waelod dde. I ddychwelyd i'r maint arferol, cliciwch ar Esc ar eich allweddell.
I weld gwahanol dudalennau'r ewyllys, cliciwch ar y bodluniau yn y golofn chwith neu cliciwch ar y saethau (i'r dde a'r chwith o'r ddelwedd).
Wrth symud eich llygoden dros y ddelwedd fel welwch '+' a '-' yn ymddangos yng nghornel uchaf chwith y llun. Mae'r rhain yn caniatau i chi glosio a phellhau o'r ddelwedd. Gallwch hefyd ddefnyddio'r saeth cylch i droi'r ddelwedd gyda chyfeiriad y cloc.
Gallwch chwilio'r casgliad trwy ddefnyddio'r ffurflen chwilio Ymrwymiadau Priodas.
Dim ond trwy'r Catalog gellir chwilio am ymrwymiadau priodas, NID ydynt ar gael trwy Archifau a Llawysgrifau LlGC.
Dangosir y cyfeirnod mewn cronfachau ar ddiwedd y testun 'Ar gael yn' (i'r dde o'r smotyn gwyrdd) yn y cofnod ar gyfer pob ymrwymiad.
Os ydych chi'n gwybod yr enw llawn rhowch '' " o'i amgylch yn y blwch chwilio. Dim ond canlyniadau'n cynnwys yr enw llawn fydd yn ymddangos wedyn. Os chwiliwch chi am enw heb '' " o'i amgylch, mi fydd yn cynnwys y naill enw neu'r llall. Er enghraifft ar gyfer Mary Jones, mi fyddai'n dangos canlyniadau'n cynnwys pob Mary, pob Jones a phob Mary Jones.
Os oes gennych enw llawn a lle, defnyddiwch y chwiliad manwl (dolen i'r dde o'r botwm chwilio. Rhowch yr enw gyda '' " yn y blwch cyntaf a'r enw lle gyda'' " yn yr ail flwch.
Os oes gennych ddyddiad cyffredinol ar gyfer yr ymrwymiad, gallwch fireinio'ch chwilio o dan 'Dyddiad Cychwyn' yn y golofn chwith (cofiwch glicio ar y botwm coch 'Mireinio'a bydd eich canlyniadau'n diweddaru.
I chwilio'r llawysgrifau defnyddiwch Archifau a Llawysgrifau LlGC.
Fe welwch flwch chwilio yn y faner ddu ar frig y dudalen.
Gwelir y goeden archifol yn y golofn chwith wedi i chi agor cofnod yn Archifau a Llawysgrifau LlGC (o dan y ddelwedd o'r Llyfrgell). Mae'r goeden yn edrych fel rhestr blygadwy. Rhestr ydyw o'r holl eitemau o fewn casgliad benodol. Er enghraifft mae gan gasgliad fel Papurau Ystâd Badminton nifer o eitemau unigol. Mae'n bosib eich bod wedi agor cofnod yng nghanol casgliad, a'r goden archifol sy'n caiatau i chi weld y cofnodion cyn ac ar ei ôl, a sut mae'n perthyn i weddill y casgliad.
Bydd y cofnod rydych wedi ei agor yn ymddangos fel llwyd tywyll. I agor cofnod arall, cliciwch ar y testun glas, neu i agor 'cangen' arall o'r casgliad, cliciwch ar y saeth am i lawr i'r chwith o eitem (mae'n bosib y bydd yn cymryd ychydig amser i'r goden agor).
Wedi i chi ddewis cofnod, bydd y disgrifiad yn agor yn y golofn dde.
Unwaith eich bod wedi agor y casgliad sydd angen arnoch yn Archifau a Llawysgrifau LlGC, fe welwch y goeden archifol yn y golofn chwith (sy'n rhestri pob cofnod yn y casgliad). Uwchben y goeden fe welwch label 'Chwiliad cyflym' - cliciwch ar hwn. Teipiwch eich term chwilio yn y blwch, ac mi welwch yr holl ganlyniadau perthnasol yn ymddangos o dan y blwch chwilio. Dewisiwch gofnod, ac mi fydd y disgrifiad yn y agor yn y golofn dde.
Mae sawl ffordd i chwilio papurau ystâd yn LlGC
Gallwch wneud chwiliad ym mlwch chwilio Archifau a Llawysgrifau LlGC a gweld a oes cofnod perthnasol yn un o'r papurau ystâd.
Gellir chwilio am Adroddiadau Blynyddol LlGC 1909-2000 (gynt ar ISYS) ar ein tudalen Archifau a Llawysgrifau: Adroddiadau Blynyddol
Gellir chwilio trwy'r ffurflen bwrpasol ar dudalen Casgliad Traethodau Cymru.
Sut mae chwilio Baledi Cymru Arlein?
Gellir chwilio trwy'r ffurflen bwrpasol ar dudalen Baledi Cymru Arlein.
Os ydych chi'n gwybod dyddiad y ffotograff, gallwch ddewis 'Dyddiad Cychwyn' a 'Dyddiad Terfyn' cyn chwilio.
I chwilio Llyfryddiaeth Cymru:
Oes, mae’n rhaid mewngofnodi er mwyn archebu eitemau i’w gweld yn yr Ystafell Ddarllen.
Sut i fewngofnodi:
Nid oes angen mewngofnodi cyn chwilio, ond gall fod yn ddefnyddiol gan na fydd angen ail-ddewis unrhyw gyfrolau ayyb a ddewisiwyd gennych eisoes yn y cofnod eitem.
Cliciwch ar deitl yr eitem, a bydd ‘pop-up’ yn ymddangos, sef y cofnod eitem.
Fe welwch bennawd o’r enw ‘Gosod Cais’. Os na fyddwch wedi mewngofnodi, fe welwch faner goch – cliciwch ar hwn er mwyn mewngofnodi (rhaid mewngofnodi er mwyn archebu eitemau).
Os ydych wedi mewngofnodi, fe welwch fotwm Gosod Cais – cliciwch yma, a llenwi’r ffurflen gais yn ôl yr angen, wedyn cliciwch ar y botwm coch Gosod Cais i’w anfon.
*Noder y bydd dolen i 'Rhestr o amseroedd cyrchu' yn ymddangos ar dop y blwch olaf, a bydd hon yn rhoi manylion pryd y bydd eich eitem yn debygol o fod ar gael. Noder na fydd eitemau’n cael eu cyflenwi ar Ddyddiau Sadwrn ac fe ddylid eu harchebu yn unol â’r manylion ar y dudalen honno.
Na, rhaid archebu pob eitem ar wahan.
Cliciwch eich enw yn y gornel uchaf dde ar unrhyw dudalen ar y Catalog, a dewisiwch ‘Fy Ngheisiadau’. Byddwch wedyn yn gweld rhestr o’ch ceisiadau.
Noder y bydd pob cais am archifau a llawysgrifau (ag eithrio ewyllysiau ac ymrwymiadau priodas) yn cael eu prosesu trwy Archifau a Llawysgrifau LlGC, ac ni fyddant yn ymddangos yn y rhestr ceisiadau ar y prif Gatalog.
Os ydych chi'n ymwybodol bod eitem benodol yn y casgliad, ond ni allwch ddod o hyd iddi ar y Catalog, gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais nad yw yn y Catalog.