Symud i'r prif gynnwys

Beth Gallaf Chwilio?

Dolenni cymorth defnyddiol

Catalog

Beth gallaf ei chwilio o’r prif Gatalog?

Ar y prif Gatalog gallwch gyfyngu eich chwiliadau i'r prif gasgliadau hyn:

  • Yn y Llyfrgell: Casgliadau LlGC, ac adnoddau yr ydym yn tanysgrifio iddynt
  • Eitemau wedi'u digido: Casgliadau LlGC sydd wedi'u digido
  • Pob categori: Chwilio'r holl gasgliadau rhestredig eraill gyda'i gilydd
  • Adnau Cyfreithiol Electronig: Chwiliwch ar draws yr holl gyhoeddiadau electronig (llyfrau, cylchgronau ayb) a gyhoeddwyd yn y DU ac a gasglwyd trwy Adnoau Cyfreithiol
  • Sain a Chlyweledol: Casgliadau sain a delweddau symudol LlGC
  • Ewyllysiau: Casgliad ewyllysiau LlGC
  • Ymrwymiadau Priodas: casgliad Ymrwymiadau Priodas LlGC
  • Baledi: 4,000 o faledi wedi'u digido o LlGC a Phrifysgol Caerdydd
  • Casgliad Traethodau Cymru: 50,000 o draethodau ôl-raddedig a thraethodau hir a gyflwynwyd i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Adnoddau’r  Llyfrgell

Oes gennych chi fwy o adnoddau chwiliadwy, penodol, heblaw am y Catalog?

Mae tudalen Adnoddau'r Llyfrgell yn cynnig rhestr lawn o'r holl wefannau/catalogau/ffurflenni sydd ar gael i chwilio ein casgliadau.

Mae hon yn rhestr hir, ac yn cynnwys rhai gwefannau adnabyddus fel Papurau Newydd Cymru Arlein, ac eraill, llai adnabyddus, fel Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg Mewn Llawysgrifau.

Mae hefyd yn cynnwys ffurflenni chwilio pwrpasol i chwilio rhai casgliadau penodol ee ewyllysiau, ymrwymiadau priodas.


Archifau a llawysgrifau LlGC

Beth yw'r ffordd orau o chwilio Archifau a Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru?

Mae Archifau a Llawysgrifau LLGC yn gatalog pwrpasol i chwilio'r casgliadau hyn. Mae'n caniatáu i chi weld y goeden archifol ar gyfer pob casgliad, a gwneud cais am y deunydd i'w weld yn yr Ystafell Ddarllen. 

Gallwch hefyd chwilio trwy'r casgliadau hyn o'r prif Gatalog, ond efallai y bydd angen i chi hidlo'ch canlyniadau i weld dim ond archifau a llawysgrifau, yn dibynnu ar eich term chwilio. Cewch eich cyfeirio at gatalog Archifau a Llawysgrifau LlGC i wneud cais am yr eitemau.


Adnoddau Allanol

Pa Adnoddau Allanol gallaf eu defnyddio?

Gweler ein tudalen Beth Gallaf ei Weld am fwy o fanylion ynghylch yr hyn y gallwch ei weld cyn ac ar ôl cofrestru.

Ceir rhestr lawn o'r holl Adnoddau Allanol mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn tanysgrifio iddynt ar ein tudalen Adnoddau Allanol.

Pam na allaf ddefnyddio Tanysgrifiadau ac Adnoddau Eraill os wyf yn byw y tu allan i Gymru?

Arienir y cynllun gan Lywodraeth Cymru, ac felly i gael mynediad, rhaid cael cyfeiriad yng Nghymru neu gôd post Cymreig.